Newyddion S4C

Gwasanaeth eglwysig cyntaf i ddysgwyr Cymraeg ym Mangor

ITV Cymru 17/12/2024

Gwasanaeth eglwysig cyntaf i ddysgwyr Cymraeg ym Mangor

Mae gwasanaeth Nadolig i ddysgwyr Cymraeg wedi’i gynnal yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor, ac yn gyfle i bobl “ymlacio mewn gwasanaeth syml a byr”.

Roedd y gwasanaeth ‘Duw a Dysgwyr ’Dolig’ yn cynnwys carolau Nadolig a darlleniadau i siaradwyr newydd a rhugl.

Yn ôl y Parchedig Ganon Tracy Jones, roedd y digwyddiad, sef y cyntaf o’i fath i ddysgwyr yn yr Eglwys, yn llwyddiant.

“Ma’ lot fawr o bobl wedi dŵad, lot fawr o offeiriaid yn dysgu Cymraeg a lot o Gymry Cymraeg hefyd i helpu gyda’r gwasanaeth,” meddai.

“Mae hwn yn gyfle i bobl ymarfer siarad Cymraeg achos mae Cymraeg yn yr eglwys yn eithaf gwahanol, gyda’r eirfa yn gallu bod yn gymhleth.”

Image
y Parchedig Ganon Tracy Jones
Dywedodd y Parchedig Ganon Tracy Jones bod y digwyddiad wedi bod yn llwyddiannus

Roedd y gwasanaeth wedi’i addasu o wasanaeth traddodiadol, gan gynnwys darlleniadau arafach a sillafiadau ffoneteg i helpu’r gynulleidfa.

Cafodd prosiect Duw a Dysgwyr ei sefydlu fel rhan o ymrwymiad yr Eglwys i hybu’r Gymraeg o fewn addoldai, gyda’r gwasanaeth yn cymryd lle yn fisol o dan arweiniad Esgobaeth Bangor.

Ar ôl lawnsio ym mis Mehefin 2024, mae’r trefnwyr yn dweud eu bod wedi croesi i dir newydd.

“Rydym yn gyffrous i fod yn cynnal ein gwasanaeth Cymun Nadolig cyntaf erioed i ddysgwyr,” meddai Elin Owen, trefnydd Duw a Dysgwyr.

“Nod y fenter yw helpu dysgwyr Cymraeg i gymryd rhan llawnach mewn addoliad ar draws yr esgobaeth, ac i adeiladu eu hyder.”

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.