Newyddion S4C

Label recordiau Fflach Cymunedol yn agor cyfranddaliadau i gefnogi'r cwmni newydd

Fflach Cymunedol

Mae label recordiau Fflach Cymunedol, a gafodd ei sefydlu yn Aberteifi er mwyn parhau â gwaith y diweddar frodyr Richard a Wyn Jones, wedi cyhoeddi bod modd i bobl brynu cyfranddaliadau yn y cwmni newydd.

Yn ôl llefarydd ar ran y label, mae'r "amser wedi dod i’r label unigryw yma fynd ar drywydd newydd". 

"Mae Fflach bellach wedi dod yn Fflach Cymunedol, yn label recordiau ar newydd wedd.

"Byddwn yn dal i wasanaethu’r gymuned y mae’r cwmni wedi erioed, ond gyda strwythur newydd a gorwelion newydd."

Bu farw'r brodyr Wyn a Richard Jones yn ystod haf 2021 o fewn cwta fis i'w gilydd. 

Roedd y ddau yn gerddorion ac yn gynhyrchwyr.

Fe wnaethon nhw sefydlu'r grŵp Ail Symudiad yn 1978 - gyda Richard yn brif leisydd ac yn chwarae'r gitâr, a Wyn yn chwarae'r gitâr fas a llais cefndir.

Yn 1981, fe sefydlodd y brodyr gwmni label recordiau Fflach, gan yna ddatblygu stiwdio recordio yn Aberteifi'n ddiweddarach.

Mae rhai o'u caneuon poblogaidd fel Garej Paradwys, Geiriau a Twristiaid yn y Dref yn parhau i gael eu chwarae ar y tonfeddi hyd heddiw. 

Yn un o fandiau mwyaf Cymru yn eu dydd, cafodd eu cerddoriaeth eu dylanwadu gan fandiau fel The Clash a'r Trwynau Coch. 

'Denu lleisiau newydd'

Daeth nifer o wirfoddolwyr ynghyd ar ddechrau 2024 i drafod y syniad o drosglwyddo cwmni Fflach i ofal cwmni cydweithredol a chymunedol newydd.

Drwy'r ail strwythuro, mae Fflach Cymunedol yn gobeithio codi rhwng £50,000 a £100,000 ar gyfer y fenter er mwyn "denu lleisiau newydd".

"Fel cymdeithas budd cymunedol, byddwn yn rhydd i godi arian trwy grantiau cymunedol, gan ein galluogi i barhau i feithrin talent newydd, i weithio gyda chymunedau, ac i fod yn gartref cryf ac yn llais i fandiau ac artistiaid Gorllewin Cymru," meddai llefarydd ar ran y fenter.

"Mae'r ail-strwythuro yma hefyd yn golygu ein bod yn estyn croeso o'r newydd i aelodau i ymuno â'r cwmni. 

"Mae hwn yn ffordd i godi arian i'r fenter newydd, ond hefyd yn gyfle i gynnull lleisiau adnabyddus, a lleisiau newydd i'r sgwrs am waith a dyfodol Fflach Cymunedol."

Llun: Fflach Cymunedol

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.