Newyddion S4C

'Arglwydd ar ei deyrnas ei hun': Honiadau fod Neil Foden wedi camddefnyddio prosesau cyflogi

Newyddion S4C

'Arglwydd ar ei deyrnas ei hun': Honiadau fod Neil Foden wedi camddefnyddio prosesau cyflogi

Mae yna honiadau newydd fod y cyn-bennaeth a’r pidoffeil, Neil Foden, wedi camddefnyddio prosesau o fewn Ysgol Friars ym Mangor wrth reoli. 

Cafodd 82 allan o 94 o benodiadau yn Ysgol Friars eu gwneud gan Neil Foden, a hynny heb y llywodraethwyr. 

Mae dogfennau sydd wedi cael eu rhannu gyda Newyddion S4C yn dangos fod y penodiadau gafodd eu gwneud yn yr ysgol yn anarferol o uchel.  

Chafodd bron i hanner y swyddi, dros gyfnod o dair blynedd, ddim eu hysbysebu. 

Ymhlith y penodiadau heb gyfweliadau oedd swyddi penaethiaid adran ac uwch-reolwyr. 

Daeth y ffigyrau i sylw Newyddion S4C ar ôl i undeb addysg yr NEU sy’n cynrychioli nifer o staff yr ysgol wneud cais rhyddid gwybodaeth.  

Yn gynharach eleni roedd gan yr ysgol ddyled o bron i £500,000.

Camdriniaeth

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf ar ôl camdrin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.

Yn ôl bwrdd llywodraethwyr yr ysgol mae “gwersi i’w dysgu” ac maen nhw bellach yn dilyn arweiniad Cyngor Gwynedd wrth recriwtio.

Mae Dilwyn Griffiths, Swyddog Cymru gydag undeb addysg NEU, yn gynrychiolydd undeb i nifer o staff Ysgol Friars.

Dywedodd bod Foden “wedi cael rhwydd hynt i neud be bynnag oedd o isio neud.

“Roedd ’na lawer iawn mwy o wario nac y dylid bod ar staffio, ac yn amlwg doedd ’na neb yn cadw golwg arna fo.”

Dywedodd fod faint o benodi oedd wedi bod yn “wirioneddol anarferol”.

“Roedd ’na rywfaint wrth gwrs ella yn ddyrchafiad o fewn yr ysgol. 

“Ac o’r penodiadau i gyd - y rhai oedd wedi mynd drwy’r broses o hysbysebu ac yn y blaen; dim ond rhyw lond llaw ohonyn nhw oedd’na lle oedd ’na gyfweliad wedi bod. 

“Ac yn y cyfweliadau rheini o’dd hi’n anarferol iawn i weld unrhyw aelod o’r corff llywodraethol arnyn nhw."

Image
Neil Foden

Ychwanegodd Mr Griffiths: “Doedd y penodiadau ddim yn mynd drwy’r corff llywodraethol - doeddan nhw ddim yn cael eu hadrodd i’r corff llywodraethol, doedd ’na ddim byd. 

“Oedd o [Foden] fel rhyw arglwydd ar ei deyrnas ei hun rhywsut.

“Mae yna gwestiwn yn codi hefyd sut nad oedd hyn wedi amlygu hun efo’r awdurdod….ffordd mae petha yn gweithio ydi - yr ysgol sy’n gwneud y penodi ond yr awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am roi y cytundebau allan i bobol ac mae yna gwestiwn yn codi yn fana hefyd ynglŷn â sut oedd hynny yn medru mynd ymlaen.

“Sut nad oedd yr awdurdod lleol wedi sylwi fod hyn yn anarferol?

“Dwi ddim yn gwbod yr ateb! Mae yna gymaint o bethau am ysgol Friars ynghylch sut doedd na neb wedi sylwi ar hyn hwn ydi’r cwestiwn sy’n codi efo bob dim sydd wedi digwydd yna (yn yr ysgol) i bob pwrpas.”

‘Dim hysbyseb’

Yn 2022 roedd gan Ysgol Friars bron i £1 miliwn bunnoedd wrth gefn. Yn bennaf, roedd hyn oherwydd grantiau yn sgil y pandemig. 

Ond, erbyn Ionawr eleni roedd yr ysgol mewn dyled o £500,000, ac roedd rhaid dechrau’r broses o ddiswyddiadau gorfodol. 

Fe ddaeth y broses ymgynghori i ben heb i’r ysgol orfod diswyddo staff, diolch i 17 aelod a wnaeth adael yn wirfoddol.  

Mae Gill, nid ei henw iawn, yn gweithio yn yr ysgol. Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C ei bod yn nabod nifer gafodd gynnig swydd gan Foden, heb fynd drwy brosesau swyddogol.

“Roedd ’na lot o’r staff yn meddwl fod swyddi penodol yn cael eu cadw yn arbennig ar gyfer ‘rhei’ pobl, ac fydda’r broses recriwtio a phenodi yn ddim yn deg nag yn ddi-duedd,” meddai.

“Dw i’n gwybod am bobol gafodd gynnig swyddi - ac yn sicr doedd ’na ddim hysbyseb.” 

Image
friars

Er i Newyddion S4C ofyn sawl tro, doedd neb o lywodraethwyr newydd yr ysgol am wneud cyfweliad.

Ond mewn datganiad mi ddywedon nhw fod yna “aneglurder” am y “prosesau hysbysebu a phenodi” gafodd eu gwneud gan Neil Foden “yn ystod ei 26 mlynedd fel pennaeth.”

A doedd trefniadau recriwtio'r gorffennol ddim yn “ddigon agored a thryloyw.”

Mae “polisïau a gweinyddiaeth yr ysgol” yn cael eu hadolygu , fel eu bod yn  “cyd-fynd â phob gofyn statudol a pholisi’r Ysgol a’r Cyngor,” medd y llywodraethwyr. 

Ymateb y cyngor

Mae datganiad gan Gyngor Gwynedd yn nodi nad oedd pob un o’r 94 penodiad yn rhai o’r newydd. 

Roedd yna gyfuniad o swyddi dros dro, dyrchafiadau a newidiadau mewnol.

Mae’r awdurdod yn cefnogi llywodraethwyr ac arweinyddiaeth newydd yr ysgol i wneud yn siŵr fod eu prosesau hysbysebu a phenodi staff yn gadarn ac effeithiol i’r dyfodol. 

Mae’r llywodraethwyr a Chyngor Gwynedd yn dweud fod yr ysgol bellach mewn sefyllfa “ariannol gadarn” a’u bod yn cydweithio ar reolaeth gyffredinol ac ariannol yr ysgol wrth symyd ymlaen. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.