'Hynod o annhebygol' y bydd porthladd Caergybi ar agor cyn y Nadolig
Mae arweinydd gwleidyddol Iwerddon, y Taoiseach Simon Harris, wedi dweud fod difrifoldeb y difrod i borthladd Caergybi yn dod yn "fwy amlwg wrth i'r dyddiau fynd heibio."
Fe dorrodd Newyddion S4C y newydd bod y porthladd ar gau wythnos yn ôl, ar ôl iddo gael ei ddifrodi yn ystod Storm Darragh.
Wrth siarad yn Dun Laoghaire ddydd Llun, dywedodd Simon Harris ei fod yn "hynod o annhebygol y bydd y porthladd yn gweithredu mewn unrhyw ffordd go iawn y pen yma i'r Nadolig, ac wrth gwrs mae hyn yn bryder difrifol i'r bobl sydd wedi prynu nwyddau a phresantau y maen nhw'n obeithio fydd yn cyrraedd, a hefyd i bobl sydd yn ddealladwy yn ceisio dychwelyd adref cyn cyfnod y Nadolig."
“Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod llawer iawn o waith yn mynd rhagddo yn y llywodraeth ar y mater hwn.
"Heddiw, bydd y Gweinidog Trafnidiaeth a’r Gweinidog Gwladol dros Drafnidiaeth yn cyfarfod â’u partneriaid yng Nghymru.”
Bu cyfarfod rhwng is-weinidog Iwerddon yn yr Adran Drafnidiaeth James Lawless â’i bartner o Gymru, Ken Skates, ddydd Sul ac mae’r ddau i fod i gwrdd â Stena Line am 13:00 ddydd Llun.
Dywedodd Mr Lawless fod y ddau weinidog yn gofyn i Stena Line roi diweddariadau mwy “cywir ac amserol” ar raddfa’r difrod a’r gwaith atgyweirio sydd ei angen yng Nghaergybi.
“Mae’n sefyllfa heriol iawn ac mae’n debyg yr amser gwaethaf posib o’r flwyddyn i rywbeth fel hyn ddigwydd, gyda phobl yn aros yn bryderus i barseli gyrraedd,” meddai wrth Morning Ireland ar RTE.
“Roedd llawer o allforwyr bach o Iwerddon eisiau cael y nwyddau i’r farchnad Nadolig yn y DU ac i’r gwrthwyneb, yn ogystal â’r holl fusnes arferol sy’n trafod, ac yna wrth gwrs, pobl sy’n edrych i ddod adref ar gyfer y Nadolig.”
'Colli swyddi'
Mae Aelod Seneddol Ynys Môn, Llinos Medi wedi dweud bod pobl wedi “colli swyddi yn barod” ar ôl i borthladd Caergybi gau.
Does dim disgwyl iddo ail-agor tan o leiaf 19 Rhagfyr, medd Llywodraeth Cymru.
Wrth siarad gyda'r BBC fore Llun, dywedodd Llinos Medi mai “realiti’r sefyllfa” yw bod pobl bellach wedi colli gwaith.
“Mae ‘na rhai wedi colli swyddi yng Nghaergybi yn barod achos doedd ‘na ddim incwm yn dod i fewn i’w cyflogi nhw a heiny’n gyrwyr lorïau oeddan nhw,” meddai.
“Mi o’n i’n siarad gyda chwmni dros y penwythnos… ‘odd dros 10 o unigolion yn ddi-waith dechrau wythnos diwethaf,” ychwanegodd.
Mae’n dweud fod yna “sawl haen” sydd yn cael eu heffeithio gan y sefyllfa, gan gynnwys trigolion a busnesau lleol yn ogystal â chwmnïau ehangach.
“Mae’r elfen bersonol yna [hefyd] o bobl sydd eisau mynd adre’ at eu teuluoedd pa bynnag ochr o’r môr mae’r unigolion hynny maen nhw eisiau gwneud eu ffordd yn ôl.
“Felly mae’n cael effaith ar gymaint o agweddau.”
'Cyfathrebu'
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran Porthladd Caergybi mai dau ddigwyddiad angori a ddigwyddodd yn ystod Storm Darragh oedd yn gyfrifol am achosi’r difrod.
Dywedodd bod yn rhaid cychwyn ar y broses o adolygu’r difrod wedi’r storm, gan olygu mai ddydd Mawrth oedd y cynharaf iddyn nhw allu asesu’r sefyllfa.
Mae’r broses o gynnal archwiliadau tanddwr ar strwythur y porthladd yn parhau.
Mae Stena Line wedi dweud eu bod nhw wedi canslo pob taith tan ddydd Gwener, 20 Rhagfyr ac mae Irish Ferries wedi dweud y bydd pob taith hyd at ddiwedd ddydd Iau 19 Rhagfyr wedi’u canslo hefyd.
Mae Llinos Medi wedi galw am “gyfathrebu” rhwng cwmnïau a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau bod pobl yn “gwybod yn gynt na hwyrach os ydy’r amserlen yn gynaliadwy neu beidio.”
“Mae isio sgwrs llawer ehangach ar ba mor resilient ydy’r porthladd yma yng Nghaergybi ac Ynys Môn achos mae symudiad nwyddau mor, mor bwysig,” meddai.
Dosbarthu nwyddau
Mewn datganiad ddydd Sadwrn dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates y gallai gwaith atgyweirio gymryd dipyn o amser.
Mae wedi pwysleisio bod y gwaith atgyweirio yn mynd yn ei flaen, ond mai diogelwch yw'r brif flaenoriaeth wrth wneud hynny.
Dywedodd y byddai'n cyfarfod gydag arweinwyr y porthladd eto ar 18 Rhagfyr i dderbyn diweddariad pellaf ar y gwaith.
Mae rhybudd y gallai cau'r porthladd arwain at oedi mewn dosbarthu nwyddau a pharseli rhwng Iwerddon a'r tir mawr.
Mae disgwyl i Weinidog Gwladol dros Drafnidiaeth Gweriniaeth Iwerddon, James Lawless gyfarfod gyda rhanddeiliaid ac arweinwyr cwmnïau fferi ddydd Llun.
Mae wedi dweud fod difrod y storm i borthladd Caergybi wedi digwydd ar yr “adeg waethaf posib o’r flwyddyn.”
Llun: Chris Willz