Difrod i borthladd Caergybi 'llawer yn waeth' na feddyliwyd yn wreiddiol
Mae'r difrod i borthladd Caergybi, sydd wedi bod ar gau ers wythnos bellach, "llawer yn waeth" na feddyliwyd yn wreiddiol.
Cafodd y porthladd ei ddifrodi yn Storm Darragh ac ni fydd yn agor tan o leiaf 19 Rhagfyr, meddai Llywodraeth Cymru.
Mae lluniau o'r safle yn dangos difrod i un o freichiau safle angori llongau fferi yn y porthladd yng Nghaergybi - er nad yw'n eglur beth yn union achosodd y difrod ar hyn o bryd.
Mae rhai yn awgrymu mai llongau fferi achosodd y difrod i'r strwythur yn ystod Storm Darragh ond nid yw hyn wedi ei gadarnhau.
Mae llongau fferi'n hwylio i'r porthladd gan angori ger strwythur sydd â sawl braich iddo - ac mae'n ymddangos bod un o'r breichiau hyn oedd yn llwybr troed wedi torri'n rhydd a disgyn i'r môr islaw.
Mewn datganiad ddydd Sadwrn dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates gallai gwaith atgyweirio cymryd dipyn o amser.
"Mae wedi dod i'r amlwg bod y difrod yn helaethach nag a feddyliwyd yn wreiddiol ac efallai y bydd yn cymryd cryn dipyn o amser i'w atgyweirio.
"Ddydd Iau, trefnais gyfarfod gyda phorthladd Caergybi ac Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa.
"Yn dilyn hynny, mae Awdurdod Porthladd Caergybi wedi dynodi y bydd y porthladd yn parhau ar gau tan 19 Rhagfyr 2024 o leiaf."
Mae rhybudd y gallai cau'r porthladd arwain at oedi mewn dosbarthu nwyddau a pharseli rhwng Iwerddon a'r tir mawr.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1867657913566667122
Dywedodd Mr Skates ei fod yn cydnabod yr effeithiau ar fusnesau a'r economi gyda'r porthladd wedi cau.
Mae wedi pwysleisio bod y gwaith atgyweirio yn mynd yn ei flaen, ond mai diogelwch yw'r brif flaenoriaeth wrth wneud hynny.
"Rwy’n ymwybodol iawn o’r effeithiau sylweddol y mae’r cau parhaus yn eu cael ar symudiadau logisteg rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon, yn enwedig o ystyried y galw tymhorol uchel am ddosbarthu nwyddau’n brydlon.
"Fodd bynnag, mae'n hollbwysig bod Porthladd Caergybi yn adfer ei allu gweithredol cyn gynted â phosibl.
"Rhaid i ddiogelwch barhau i fod yn flaenoriaeth, felly ni fydd y porthladd yn ailddechrau ei wasanaethau nes bydd yn gwbl barod i wneud hynny, ond rydw i’n gwybod bod y tîm yn y porthladd yn gweithio mor galed ag y gallant i ailddechrau gweithredu ar y cyfle cynharaf posibl."
Ychwanegodd y byddai'n cyfarfod gydag arweinwyr y porthladd eto ar 18 Rhagfyr i dderbyn diweddariad pellaf ar y gwaith.
Fe fydd yn rhoi diweddariad pellach i’r Senedd ar ôl y cyfarfod hynny, meddai.
Llun: Chris Willz