Plaid Cymru'n cynnal ei chynhadledd wanwyn yng Nghasnewydd
Bydd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, yn annerch cynhadledd wanwyn ei blaid yng Nghasnewydd ddydd Gwener - gan ddadlau mai brwydr rhwng Reform UK a'i blaid ei hun fydd etholiad y Senedd ym mis Mai.
Mae disgwyl i Mr ap Iorwerth ddisgrifio Etholiadau’r Senedd sydd 10 wythnos i ffwrdd fel dewis rhwng "gweledigaeth obeithiol Plaid Cymru" a’r "anhrefn" y byddai cyn-Dorïaid yn Reform UK yn ei greu.
Mae disgwyl iddo gyhuddo Reform UK o fod â “dim atebolrwydd, dim difrifoldeb, dim polisïau, a dim cywilydd wrth ddefnyddio ein cenedl fel man cychwyn etholiadol yn unig, dim byd arall.”
Bydd yn rhybuddio aelodau mai cynghorau Lloegr dan reolaeth Reform UK yw'r "caneris yn y pwll glo" o ran yr hyn sydd gan y blaid i'w gynnig i Gymru:
“Gyfeillion, i Lafur, mae'r blaid drosodd - ac felly bydd yr etholiad ym mis Mai yn ddewis rhwng dau ddyfodol cyferbyniol.
“Goddefgarwch neu raniad. Cynnydd neu bydredd. Herfeiddiad neu barch. Diwylliant neu anwybodaeth. Dynoliaeth neu ddifaterwch.
“Ymgeiswyr di-wyneb ac arweinwyr cynghorau di-hid o Northumberland i Gaint yw'r caneris yn y pwll glo o ran yr hyn sydd gan Farage i'w gynnig i'n senedd a'n pobl."
Mae disgwyl i'r blaid gyhoeddi manylion am ei 100 diwrnod cyntaf mewn grym petai hi'n dod yn fuddugol yn yr etholiad.
Mae'r arolygon barn yn awgrymu y bydd yn ras agos rhwng Pliad Cymru yn y blychau pleidleisio ar 7 Mai.
Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud y byddai yn galw am refferendwm ar annibyniaeth i Gymru "cyn gynted ag y bydd pobl Cymru yn barod" pe bai'n dod yn Brif Weinidog Cymru yn dilyn etholiad y Senedd ym mis Mai.