Pam fod porthladd Caergybi ar gau?
Pam fod porthladd Caergybi ar gau?
Mae'r difrod gafodd ei achosi i borthladd Caergybi yn dilyn Storm Darragh wedi arwain at gau un o borthladdoedd prysuraf Prydain tan o leiaf 19 Rhagfyr.
Mae hyn yn golygu oedi sylweddol a newid cynlluniau i deithwyr a chwmnïau cludiant yn ystod un o amseroedd prysuraf y flwyddyn.
Mae rhybudd y gallai cau'r porthladd arwain at oedi mewn dosbarthu nwyddau a pharseli rhwng Iwerddon a'r tir mawr.
Ond beth ddigwyddodd i achosi cau'r porthladd, a pham yn union ei fod ar gau?
Mae lluniau o'r safle yn dangos difrod i un o freichiau safle angori llongau fferi yn y porthladd yng Nghaergybi - er nad yw'n eglur beth yn union achosodd y difrod ar hyn o bryd.
Mae rhai yn awgrymu mai llongau fferi achosodd y difrod i'r strwythr yn ystod Storm Darragh ond nid yw hyn wedi ei gadarnhau.
Mae llongau feri'n hwylio i'r porthladd gan angori ger strwythr sydd â sawl braich iddo - ac mae'n ymddangos bod un o'r breichiau hyn oedd yn lwybr troed wedi torri'n rhydd a disgyn i'r môr islaw.
Mae deifwyr wedi bod yn archwilio'r safle yn ystod y dyddiau diwethaf i fesur maint y difrod.
O ganlyniad i'r difrod, mae nifer o asiantaethu'n gweithio i arallgyfeirio teithwyr a nwyddau oedd i fod i deithio o Gaergybi.
Mae hyn yn cael ei gydlynu gan Awdurdod y Porthladd, Stena Line, Irish Ferries, Llywodraeth Cymru, a Chyngor Sir Ynys Môn.