Cau Porthladd Caergybi wedi 'difrod sylweddol' ar ôl Storm Darragh
Mae Porthladd Caergybi ar gau oherwydd 'difrod sylweddol' sydd wedi'i achosi gan Storm Darragh.
Dywedodd Traffig Cymru na fydd unrhyw fferi yn hwylio tan nos Fawrth ar y cynharaf, a hynny "hyd nes y bydd archwiliadau strwythurol hanfodol yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau diogelwch."
Mae Traffig Cymru yn annog pob teithiwr i beidio â theithio i Borthladd Caergybi na stopio ar yr A55 gan bod hynny yn "anghyfreithlon a pheryglus".
Fe ddylai pobl sydd angen casglu trelars gysylltu â'r porthladd yn uniongyrchol am gymorth yn ôl Traffig Cymru.
Mae'r gwaith yn cael ei gydlynu gan Awdurdod y Porthladd, Stena Line, Irish Ferries, Llywodraeth Cymru, a Chyngor Sir Ynys Môn i "sicrhau diogelwch y cyhoedd a lleihau amhariad."
Mae gwasanaeth darparu parseli DPD yn Iwerddon hefyd wedi cyhoeddi y bydd oedi i ddosbarthiad parseli yn genedlaethol ac yn rhyngwladol oherwydd fod y porthladd wedi cau.
Mae nifer o ysgolion wedi cau ar draws Cymru ddydd Llun yn dilyn difrod Storm Darragh dros y penwythnos.
Daw'r difrod a'r anhrefn ar ôl i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd coch "perygl i fywyd" ar gyfer rhannau o Gymru ddydd Gwener.
Roedd y rhybudd am wyntoedd cryfion mewn grym rhwng 03:00 a 11:00 dydd Sadwrn, gan achosi hyrddiadau gwynt o hyd at 92mya yng Nghapel Curig yng Nghonwy ac Aberdaron yng Ngwynedd.