Newyddion S4C

Teyrnged teulu i ddynes o Sir Gâr a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad

Charoltte Beynon

Mae teulu wedi rhoi teyrnged i ddynes 32 oed o Borth Tywyn yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn Mhowys ddechrau’r mis.

Roedd Charlotte Beynon yn deithiwr mewn BMW M235 gwyn a fu mewn gwrthdrawiad â phont ychydig y tu allan i Raeadr ar 3 Rhagfyr.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty, lle bu farw o’i hanafiadau ar 7 Rhagfyr.

Dywedodd ei theulu: “Fel y mae’r holl deyrngedau niferus sy’n arllwys i mewn wedi dweud ‘nid yw geiriau byth yn ddigon’, ond yn awr mae’n rhaid i ni ysgrifennu geiriau i anrhydeddu ein Charlotte hardd a gafodd ei chymryd oddi wrthym yn drasig yn ystod ei bywyd. 

“Roedd Charlotte yn hollol unigryw, yn ddoniol heb sylweddoli hynny, yn hollol brydferth y tu mewn a’r tu allan gyda chariad at fywyd, anifeiliaid, ffrindiau, teulu a chydweithwyr. 

“Roedd Charlotte yn unigryw mewn cymaint o ffyrdd ac mae’n gwbl unigryw i’w mam, ei diweddar dad, brawd, nith, ac aelodau eraill o’r teulu a ffrindiau gwerthfawr.

“Byddwn yn gweld eisiau Charlotte bob eiliad o’n bywydau ond yn cael ein cysuro gan y wybodaeth, ar ôl ymladd brwydr galed, ei bod bellach mewn heddwch â’i diweddar dad yr oedd hi’n ei drysori a’i golli bob dydd."

Ychwanegodd y teulu: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r gwasanaethau brys yn y lleoliad gan gynnwys y criw ambiwlans awyr a roddodd gyfle i frwydro i Charlotte, y meddygon a’r nyrsys anhygoel oedd yn gofalu am Charlotte yn Ysbyty’r Mynydd Bychan a wnaeth bopeth o fewn eu gallu i achub ein merch werthfawr tra hefyd yn ein cefnogi drwy'r cyfnod anodd hwn. 

Mae’r teulu wedi gofyn am amser “i ddod i delerau â’r newyddion a bod ein preifatrwydd yn cael ei barchu”.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.