Newyddion S4C

Euro 2025: Llewesau Lloegr ymhlith gwrthwynebwyr Cymru

Euro 2025: Llewesau Lloegr ymhlith gwrthwynebwyr Cymru

Bydd Cymru yn wynebu Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd ym Mhencampwriaeth UEFA Euro 2025.

Fe gafodd y timau eu tynnu allan o'r het yn Lausanne yn y Swistir nos Lun.

Wedi eu gosod yn ngrŵp D, bydd gêm gyntaf menywod Cymru am y tro cyntaf erioed yn y bencampwriaeth yn erbyn yr Iseldiroedd ar 5 Gorffennaf.

Bydd y gêm honno yn cael ei chynnal yn Stadion Allmend yn Lucerne, Y Swistir.  

Bydd yr ail gêm yn erbyn Ffrainc ar 9 Gorffennaf yn St Gallen. 

Ac yna bydd y Cymry yn herio pencampwyr yr Ewros bedair blynedd yn ôl, Llewesau Lloegr ar 13 Gorffennaf. 

Bydd y gêm honno hefyd yn cael ei chynnal yn Arena St. Gallen yn ngogledd ddwyrain Y Swistir.    

Mae tîm Rhian Wilkinson wedi cyrraedd eu pencampwriaeth fawr gyntaf ar ôl trechu Gweriniaeth Iwerddon dros ddau gymal yn rownd derfynol y gemau ail gyfle ar gyfer y bencampwriaeth.

Mae'r timau wedi cael eu rhannu yn bedwar grŵp o bedwar tîm, Grwpiau A i D.

Fe gafodd Cymru eu gosod ym mhot pedwar. 

Yng ngrŵp A, bydd y tîm cartref, Y Swistir, Gwlad yr Iâ, Norwy a'r Ffindir. 

Yng ngrŵp B, bydd Sbaen, Yr Eidal, Gwlad Belg a Phortiwgal.

Ac yng ngrŵp C, bydd Yr Almaen, Denmarc, Sweden a Gwlad Pwyl. 

Mae grŵp Cymru, sef D, yn cael ei ystyried fel yr un anoddaf.        

Bydd pencampwriaeth Euro 2025 yn cael ei chynnal yn Y Swistir rhwng 2 a 13 Gorffennaf 2025. 

Bydd y timau sy'n gorffen yn y ddau safle uchaf yn y pedwar grŵp yn cyrraedd rownd yr wyth olaf.



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.