Lucy Letby: 'Tro pedol gan brif dyst yr erlyniad' yn achosion marwolaethau tri baban
Mae Cymro oedd yn brif dyst yr erlyniad yn achos Lucy Letby wedi "newid ei feddwl ar achosion marwolaethau tri o'r babanod" yn ôl cyfreithwyr y cyn-nyrs.
Dywedodd cyfreithwyr ar ran Lucy Letby eu bod wedi gofyn am yr hawl gan y Llys Apêl i apelio o'r newydd yn erbyn ei heuogfarnau.
Cafodd y gyn nyrs ei dyfarnu'n euog o lofruddio saith o fabanod ac o geisio llofruddio saith arall ym mis Awst 2023.
Roedd yn gweithio yn uned newydd anedig Ysbyty Countess of Chester rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016 pan ddigwyddodd y llofruddiaethau.
Roedd pump o'r babanod yn dod o Gymru.
Y cyn-ymgynghorydd paediatrig Dr Dewi Evans oedd y prif dyst ar ran yr erlyniad.
Ar ôl pori drwy filoedd o ddogfennau o Ysbyty Countess of Chester, roedd ei dystiolaeth yn ganolog i benderfyniadau'r rheithgor, a charcharu Letby.
Fisoedd yn ddiweddarach, cytunodd tri o uwch farnwyr y Llys Apêl bod dadansoddiad Dr Evans yn gwbl ddibynadwy.
Tro pedol
Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, dywedodd y bargyfreithiwr Mark McDonald: "Roedd y prif resymau am apelio yn y gwrandawiadau blaenorol yn ymwneud â derbynioldeb tystiolaeth prif dyst yr erlyniad, Dr Dewi Evans, gan y rheithgor.
"Fe wnaeth yr amddiffyniad ddadlau ddwywaith yn yr achos y dylid diystyru tystiolaeth Dr Evans. Fe gafodd hyn ei wrthod gan farnwr yr achos.
"Fe gafodd hyn ei ddadlau yn ddiweddarach yn y Llys Apêl, ac fe gafodd ei wrthod yma hefyd.
"Yn rhyfeddol, mae Dr Evans bellach wedi newid ei feddwl ar achos marwolaeth tri o'r babanod: Baban C, Baban I a Babi P."
Mae Dr Dewi Evans wedi cael cais gan asiantaeth newyddion PA i wneud sylw.
Ychwanegodd Mr McDonald fod Dr Evans bellach hefyd wedi ail-ystyried ei farn yn ymwneud â Babi C ac wedi ysgrifennu adroddiad newydd, adroddiad a gafodd ei roi i'r heddlu ganddo fisoedd yn ôl.
"Er gwaethaf sawl cais, dyw'r erlyniad dal heb roi'r adroddiad yma i'r amddiffyniad," meddai.
Dywedodd Mr McDonald hefyd y byddai'r "amddiffyniad yn dadlau nad yw Dr Evans yn dyst dibynadwy, ac o ystyried mai ef oedd prif dyst yr erlyniad, rydym ni'n dweud nad yw'r euogfarnau yn ddiogel."
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: “Mae dau reithgor a thri barnwr llys apêl wedi adolygu llu o wahanol fathau o dystiolaeth yn erbyn Lucy Letby.
“Mae hi wedi’i chael yn euog ar 15 cyfrif gwahanol yn dilyn dau achos llys gwahanol.
“Ym mis Mai, gwrthododd y Llys Apêl ganiatâd Letby i apelio ar bob sail – gan wrthod ei dadl bod tystiolaeth arbenigol yr erlyniad yn ddiffygiol.”
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: “Mae dau reithgor a thri barnwr llys apêl wedi adolygu llu o wahanol fathau o dystiolaeth yn erbyn Lucy Letby.
“Mae hi wedi’i chael yn euog ar 15 cyfrif gwahanol yn dilyn dau achos llys gwahanol.
“Ym mis Mai, gwrthododd y Llys Apêl ganiatâd Letby i apelio ar bob sail – gan wrthod ei dadl bod tystiolaeth arbenigol yr erlyniad yn ddiffygiol.”