Newyddion S4C

Llandrindod: Arestio person ar amheuaeth o geisio llofruddio

Hillcrest Rise

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio person ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi digwyddiad yn Llandrindod, Powys.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Hillcrest Rise yn y dref toc wedi 20.20 ddydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael "anafiadau difrifol".

Dywedodd yr heddlu fod y dyn wedi'i gludo i'r ysbyty lle mae'n parhau mewn "cyflwr sefydlog".

Mae swyddogion yn ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw. 

"Os ydych chi'n byw yn ardal Llethyr Bryn neu Hillcrest ac wedi gweld unrhyw ymddygiad amheus nos Sadwrn, cysylltwch â ni," meddai Heddlu Dyfed-Powys.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.