Newyddion S4C

Newid ffiniau Caerdydd ar gyfer etholiad nesaf y Senedd

17/12/2024
Caerdydd

Mae cynlluniau ar gyfer etholaethau Caerdydd yn etholiadau nesaf y Senedd wedi eu newid.

Roedd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn ymateb i ymgynghoriad ar y cynigion am etholaethau newydd i’r Senedd yr oedden nhw wedi eu cyflwyno yn flaenorol.

Yn yr etholiad Senedd nesaf, bydd y 32 o etholaethau sydd gan Gymru yn San Steffan yn cael eu cyfuno yn 16 etholaeth.

Bydd pob un o’r 16 etholaeth yn ethol chwech o aelodau i’r Senedd.

Wrth gyhoeddi'r newidiadau ym mis Medi dywedodd y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau mai eu bwriad oedd cyfuno etholaethau Gorllewin Caerdydd a De Phenarth.

Roedden nhw hefyd yn bwriadu cyfuno Gogledd Caerdydd a Dwyrain Caerdydd.

Ond ddydd Mawrth cyhoeddodd y comisiwn eu bod nhw wedi newid y penderfyniad hwnnw yn dilyn ymgynghoriad â’r cyhoedd.

Fe fyddan nhw nawr yn cyfuno Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd i greu un etholaeth, a Dwyrain Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth i greu etholaeth arall.

Mae’r cynlluniau ar gyfer pob etholaeth arall wedi aros yr un fath.

Mae disgwyl i etholiad nesaf y Senedd ddigwydd yn 2026.

Image
Cynigion

‘Cyfyngu’r opsiynau’

Dywedodd y Comisiwn eu bod nhw hefyd wedi gwrthod awgrym i gyfuno etholaethau Ynys Môn a Dwyfor Meirionydd.

Cyhoeddwyd ym mis Medi y byddai Ynys Môn yn cyfuno gyda Bangor Aberconwy a Dwyfor Meirionnydd yn cyfuno gyda Maldwyn a Glyndŵr.

Derbyniodd y comisiwn 28 ymateb yn gwrthwynebu paru Ynys Môn a Bangor Aberconwy.

Ond dywedodd y comisiwn bod yn rhaid paru Ynys Môn a Bangor Aberconwy oherwydd nad oedd cysylltiadau ffordd o Ynys Môn i unrhyw etholaeth arall.

“Mae’r Comisiwn yn cydnabod bod cysylltiadau ieithyddol, diwylliannol a hanesyddol cryfach rhwng etholaethau Dwyfor Meirionnydd ac Ynys Môn,” medden nhw.

“Fodd bynnag, mae’r diffyg cysylltiadau ffyrdd a thrafnidiaeth uniongyrchol, a amlinellir yn y ddeddfwriaeth, yn cyfyngu ar yr opsiynau sydd ar gael i baru etholaeth Ynys Môn ag unrhyw etholaeth arall.”

Ond fe ddywedodd y comisiwn eu bod nhw’n newid yr enw Bangor Aberconwy Ynys Môn i Bangor Conwy Môn.

‘Cam sylweddol’

Yr 16 etholaeth sy'n cael eu cynnig gan y Comisiwn yw:

1.           Bangor Conwy Môn

2.           Clwyd

3.           Fflint Wrecsam

4.           Gwynedd Maldwyn

5.           Ceredigion Penfro

6.           Sir Gâr

7.           Gorllewin Abertawe Gŵyr (Swansea West Gower)

8.           De Powys Tawe Nedd (South Powys Tawe Neath)

9.           Afan Ogwr Rhondda

10.        Merthyr Cynon Taf

11.        Blaenau Gwent Caerffili Rhymni

12.        Mynwy Torfaen

13.        Casnewydd Islwyn

14.        De-ddwyrain Caerdydd Penarth (Cardiff South-east Penarth)

15.        Gogledd-orllewin Caerdydd (Cardiff North-west)

16.        Pen-y-bont Bro Morgannwg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu bwriad Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru i ddefnyddio enwau Cymraeg yn unig ar gyfer mwyafrif yr etholaethau newydd yng Nghymru, gan eu hannog i wneud yr un fath gyda’r eithriadau sy’n parhau.

Dywedodd Siân Howys, Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “Rydym yn falch o weld y cynigion y bydd gan fwyafrif helaeth o etholaethau Senedd Cymru enwau uniaith Cymraeg o hyn ymlaen. 

"Y Gymraeg yw priod iaith Cymru, a dylen ni ymfalchïo ynddi, ei defnyddio a’i hyrwyddo fel bod gweld a chlywed geiriau ac enwau Cymraeg  yn dod yn arferol.

“Byddwn ni’n parhau i bwyso yn ein hymateb i’r cynigion newydd am ddefnyddio’r Gymraeg ar gyfer y pedwar eithriad i hyn - yng Nghaerdydd ac Abertawe - hefyd. 

"Byddai modd rhoi enwau nad ydyn nhw’n cynnwys cyfeiriadau cwmpawd yn yr enwau, fel nad oes angen eu cyfieithu, er enghraifft Gŵyr-Tawe ar gyfer Gorllewin Abertawe Gŵyr.”

Wrth wneud sylwadau ar gyhoeddi’r Cynigion Diwygiedig, dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:

“Mae’r Cynigion Diwygiedig hyn yn gam sylweddol ar y daith i greu etholaethau newydd Cymru.

“Hoffai’r Comisiwn ddiolch i’r miloedd o bobl a ymatebodd i’r Ymgynghoriad Cychwynnol, ac mae’n gwahodd pawb sydd â barn ar y cynigion hyn i roi eu barn i’r Comisiwn cyn 13 Ionawr 2025.

“Mae’r rheolau sydd yn eu lle ar gyfer yr arolwg hwn yn golygu na ellir newid rhai cynigion, ond yn dilyn yr adborth a gawsom gan y cyhoedd, rydym wedi gwneud addasiadau sylweddol i’r enwau arfaethedig, yn ogystal â newid cyfluniad etholaethau yn ardal Caerdydd. 

“Mae’r Comisiwn yn dal yn agored i wneud newidiadau pellach, yn dibynnu ar y cynrychiolaethau a gawn yn ystod yr ymgynghoriad hwn, felly rydym yn annog pawb i rannu eu barn cyn 13 Ionawr 2025.”

Daw’r Cyfnod Ymgynghori Diwygiedig i ben ar 13 Ionawr, a bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei Adroddiad ar Benderfyniadau Terfynol ddiwedd mis Mawrth 2025.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.