Diogelu derwen a gafodd ei dymchwel gan Darragh
Wedi i goeden hynafol tua 550 oed ddisgyn yn ystod Storm Darragh yn Sir Ddinbych, mae ymdrechion ar y gweill i geisio rhoi bywyd newydd iddi.
Roedd y dderwen ger y dŵr yn mharc Cae Ddôl yn Rhuthun, ac roedd cenedlaethau o bobl leol ac ymwelwyr wedi ei hedmygu.
Er mwyn cadw'r atgof am y dderwen ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae gwaith yn cael ei wneud ym Mhlanhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych yn Llanelwy.
Mae Tîm Coed a Thîm Bioamrywiaeth y Cyngor yn arwain y ffordd er mwyn diogelu etifeddiaeth yr hen dderwen.
Cafodd toriadau o’r dderwen eu cludo i’r blanhigfa goed ac mae’r staff yn bwriadu eu lluosogi ar y safle.
Ymhen amser, y gobaith ydy plannu'r toriadau o amgylch Cae Ddôl a’r ardal leol.
Yn ôl y cyngor, mae diogelu toriadau'r hen dderwen yn holl bwysig.
Dywedodd llefarydd: "Gan fod y Dderwen wedi’i diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed y safle, mae dyletswydd ar y Cyngor dan ddeddfwriaeth y Gorchymyn i blannu Derwen arall yn yr un lle (bras).
"Bydd y Cyngor yn gwneud hyn cyn gynted ag sy’n ymarferol, pan fydd cynlluniau ar gyfer y goeden a’r safle wedi’u cwblhau".
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Phencampwr Bioamrywiaeth: "Rydym yn gwybod pa mor bwysig oedd yr hen Dderwen hon i nifer fawr o bobl ar draws y blynyddoedd, gan greu llawer o atgofion i’r rhai fu’n ymweld â’r parc.
"Yn y blanhigfa goed, rydym yn gweithio i sicrhau bod etifeddiaeth y brif goeden yn cael ei diogelu, er na ellid ei hachub ar ôl y storm yn anffodus. A gobeithio y gallwn ailgyflwyno ei llinach i Gae Ddôl un diwrnod".
Mae'r Cyngor yn bwriadu cysylltu â’r cyhoedd a chasglu gwybodaeth i sicrhau bod trigolion Rhuthun yn rhan o’r penderfyniad am ddyfodol y dderwen.