Newyddion S4C

Caerdydd: Oedi cynllun ar gyfer cartrefi newydd oherwydd ofnau am lifogydd

16/12/2024
Radyr Close Court

Mae cynlluniau i adeiladu wyth o dai cyngor newydd yng Nghaerdydd wedi eu hoedi oherwydd ofnau am lifogydd yn yr ardal.

Penderfynodd pwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd ohirio’r cais am gartrefi yn Radyr Court Close yn Llandaf.

Roedd y rhesymau dros wrthod a roddwyd gan y pwyllgor yn cynnwys colli man agored a diffyg amddiffynfeydd rhag llifogydd yn yr ardal.

Dywedodd aelodau’r pwyllgor hefyd yr hoffent weld amod yn cael ei gyflwyno sy'n ei gwneud yn ofynnol i amddiffynfeydd llifogydd digonol gael eu hadeiladu cyn i unrhyw waith adeiladu ddigwydd ar y cartrefi.

Effeithiwyd yn ddrwg ar Radyr Court Close gan lifogydd ym mis Chwefror 2020 ac yn fwy diweddar, yn dilyn storm Darragh pan orlifodd Afon Taf ar ei glannau.

Image
LLifogydd Radyr Close Court
Roedd llifogydd yn yr ardal yn 2020

Mae mwy nag 8,000 o bobl ar restr aros tai Cyngor Caerdydd. 

Roedd y cynlluniau, a gyflwynwyd gan Tai Wales and West, yn cynnig adeiladu’r wyth cartref teuluol ar ddarn o dir wedi’i godi rhwng Radyr Court Close a Heol Radyr Court.

Mae’r safle’n cael ei ddisgrifio gan y cyngor fel man agored cyhoeddus, ond dywedodd y cynghorydd ward Llandaf y Cynghorydd Sean Driscoll fod hwn yn fan dynodedig yn benodol ar gyfer trigolion Cymdeithas Tai Wales and West oherwydd nad oes ganddynt erddi cefn.

Dywedodd swyddogion cynllunio'r cyngor na fyddai'r cartrefi arfaethedig yn cynyddu'r risg o lifogydd yn yr ardal ac y byddai'r cynllun yn cael ei warchod trwy gael ei adeiladu ar dir uchel.

Fe ychwanegodd y swyddogion hefyd na ddylai'r cynnig gael ei farnu ar y llifogydd diweddar a ddigwyddodd oherwydd bod Afon Taf wedi gorlifo ei glannau.

Serch hynny fe wnaeth swyddogion cynllunio gydnabod bod amddiffynfeydd rhag llifogydd yn yr ardal wedi methu.

Anesmwyth

Dywedododd nifer o aelodau pwyllgor cynllunio'r cyngor eu bod nhw'n anesmwydd ynghylch y syniad o gymeradwyo cynlluniau ar gyfer cartrefi mewn ardal oedd wedi dioddef sawl achos o lifogydd.

Dywedodd un swyddog cynllunio fod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gyfforddus gyda’r asesiad risg llifogydd ar gyfer y cynnig. Mae adroddiad cynllunio gan Gyngor Caerdydd yn dweud bod yr awdurdod lleol wedi penodi cwmni peirianneg, Arcadis, i gynnal ymchwiliad a dyluniad manwl o waith atgyweirio ar amddiffynfeydd llifogydd.

Fodd bynnag, mae hefyd yn dweud bod trafodaethau’n parhau rhwng y cyngor, CNC a Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r cyfrifoldeb am waith atgyweirio ar yr amddiffynfeydd llifogydd.

Apeliodd y datblygwyr yn erbyn y cyngor ar ôl iddo gyflwyno cynlluniau yn wreiddiol ar gyfer 14 o gartrefi ar yr un safle ar sail diffyg penderfyniad.

Er i’r apêl gael ei gwrthod gan gangen gynllunio Llywodraeth Cymru, Penderfyniadau Cynllunio a’r Amgylchedd Cymru (PEDW), fe argymhellodd yr arolygydd a oedd yn goruchwylio’r achos hwnnw y dylid ceisio neilltuo tir rhywle arall i wneud iawn am y golled arfaethedig o fannau agored.

Nid oes unrhyw dir cyfnewid wedi'i gaffael eto.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.