Bwyty yn Sir Benfro yn cau dros dro oherwydd gwres eithafol

Mae perchnogion bwyty glan môr yn y de wedi penderfynu cau am dridiau er mwyn cadw staff yn ddiogel yn sgil y tywydd poeth.
Daw'r penderfyniad i gau The Stone Crab yn Llanusyllt, Sir Benfro yn dilyn rhybudd oren am wres eithafol gan y swyddfa dywydd - y rhybudd cyntaf o'i fath i gael ei gyhoeddi yn y wlad.
Dywedodd perchnogion y bwyty bod y penderfyniad i gau wedi ei wneud gyda "chalon drom", ond bod hi'n bwysig iddynt gadw eu gweithwyr yn ddiogel, meddai WalesOnline.
Mae'r rhybudd oren mewn lle yn y de tan ddydd Iau.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: The Stone Crab