Newyddion S4C

Ymgynghoriad i bwyso a mesur parc cenedlaethol dadleuol newydd yn cau

Llyn Efyrnwy

Ddydd Llun yw’r diwrnod olaf i bobl rhannu eu barn ar gynlluniau dadleuol i greu Parc Cenedlaethol newydd a fyddai’n ymestyn o ogledd ddwyrain Cymru hyd at ogledd sir Powys. 

Mae gan Gymru tri pharc cenedlaethol ar hyn o bryd, gan gynnwys Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro.

Ond ers dechrau mis Hydref mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod yn gofyn i drigolion ddweud eu dweud ar greu parc cenedlaethol o’r newydd. 

Fe fyddai'r parc newydd yn ymestyn o Drelawnyd yn Sir y Fflint i lawr heibio Llyn Efyrnwy hyd at Ddyffryn Banw.

Ac fe fydd yr ymgynghoriad cyhoeddus gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar ran Llywodraeth Cymru bellach yn dod i ben ar 16 Rhagfyr.

Hollti barn

Mae’r cynlluniau wedi hollti barn yn yr ardal ac mae Arweinydd Plaid Cymru yng Nghyngor Sir Powys, Elwyn Vaughan, eisoes wedi dweud wrth Newyddion S4C y byddai'r cynllun yn cynyddu'r pwysau sydd ar wasanaethau a busnesau yn yr ardal yn barod. 

Mae rhai trigolion lleol a pherchnogion busnes wedi mynegi pryder y byddai twristiaid dim ond yn ymweld â’r ardal am ddiwrnod gan olygu na fydd unrhyw fudd i’r economi leol. 

Ond mae eraill wedi dweud y byddan nhw’n ddiolchgar am y posibilrwydd o gael cwsmeriaid ychwanegol trwy gydol y flwyddyn.

Newid ffiniau

Petai i’r cynlluniau gael ei chymeradwyo, dyma fydd y parc cenedlaethol cyntaf yng Nghymru ers 67 o flynyddoedd. 

Mae CNC wedi cwtogi ffiniau’r parc cenedlaethol ers dechrau’r proses o ymgynghori. 

Image
Map CNC
Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru

Maen nhw’n dweud bod ei map diweddaraf bellach yn cwrdd â'r meini prawf statudol ar gyfer Parc Cenedlaethol, a hynny ar ôl “gwerthusiad manwl gan ymgynghorydd tirwedd annibynnol a phrofiadol.” 

Daw’r ymgynghoriad cyhoeddus i ben ddydd Llun 75 mlynedd yn union ers i Lywodraeth y DU basio deddf i sefydlu parciau cenedlaethol. 

Llun o Lyn Efyrnwy (Wikipedia)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.