Pêl-droed: Cymru yn darganfod eu gwrthwynebwyr ym Mhencampwriaeth UEFA Euro 2025
Bydd Cymru yn darganfod eu gwrthwynebwyr ar gyfer rowndiau terfynol Euro 2025 Merched UEFA pan fydd y timau yn cael eu tynnu allan o’r het yn Lausanne yn y Swistir nos Lun.
Mae tîm Rhian Wilkinson wedi cyrraedd eu twrnamaint mawr cyntaf ar ôl trechu Gweriniaeth Iwerddon dros ddau gymal yn rownd derfynol y gemau ail gyfle ar gyfer y bencampwriaeth.
Fe fydd y timau yn cael eu rhannu yn bedwar grŵp o bedwar tîm, Grwpiau A i D.
Mae'r Swistir fel y tîm cartref yn cael eu gosod yn safle A1.
Mae Cymru wedi cael eu gosod ym mhot pedwar.
Mae’r 15 tîm wedi cymhwyso ac wedi’u dethol yn unol â'u safleoedd cyffredinol yn y cymalau rhagbrofol
Dyma’r tro cyntaf i dîm merched Cymru gyrraedd rowndiau terfynol unrhyw gystadleuaeth ryngwladol.