Trosglwyddo'r Post Brenhinol i'r biliwnydd Daniel Kretinsky o Weriniaeth Tsiec
Mae Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo cynlluniau i drosglwyddo’r Post Brenhinol i'r biliwnydd Daniel Kretinsky o Weriniaeth Tsiec.
Mae disgwyl cyhoeddiad yn ddiweddarach ddydd Llun i gadarnhau gwerthiant £3.6 biliwn i Daniel Kretinsky a’i gwmni EP Group, meddai’r BBC.
Mi fydd Llywodraeth y DU yn cadw ychydig o reolaeth dros y sefydliad ac fe fydd yn rhaid iddynt gymeradwyo unrhyw newidiadau mawr i berchnogaeth y Post Brenhinol, lleoliad ei brif swyddfa a threth.
Yn dilyn trafodaethau gydag undebau, bydd gweithwyr hefyd yn derbyn 10% o’r hyn y mae Mr Kretinsky yn cael ei dalu mewn elw.
Mae disgwyl hefyd i grŵp o weithwyr gyfarfod â chyfarwyddwyr y Post Brenhinol yn rheolaidd pob mis er mwyn sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed.
Mae Mr Kretinsky wedi cytuno i sawl amod er mwyn sicrhau’r cytundeb – gan gynnwys parhau i ddarparu llythyron chwe gwaith yr wythnos rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn, a pharseli rhwng dydd Llun a dydd Gwener.
Mae hefyd wedi cytuno i beidio ag ymyrryd â phensiynau yn ogystal a chadw brand y Post Brenhinol am y pum mlynedd nesaf.
Pwy yw'r dyn fusnes Daniel Kretinsky?
Mae Mr Kretisnky yn berchen ar 27% o glwb pêl-droed West Ham United yn ogystal â 10% o gwmni Sainsbury's.
Mae ganddo gwmnïau sydd yn darparu tanwydd o Rwsia i weddill Ewrop, a hynny gyda chymeradwyaeth yr Undeb Ewropeaidd.
Fe gafodd cysylltiadau honedig Mr Kretinsky gyda Rwsia eu diystyru yn dilyn adolygiad ac mae Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y DU Jonathan Reynolds eisoes wedi ei alw yn ddyn busnes “go iawn".
Llun: Wochit