Unig draeth Baner Las gogledd Cymru yn colli ei statws
Mae'r unig draeth Baner Las yng ngogledd Cymru wedi colli ei statws.
Yn 2021-2022 a 2022-2023, Prestatyn oedd yr unig draeth yn y gogledd oedd yn cyrraedd y safonau sydd wedi eu gosod gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol ryngwladol ar gyfer Baner Las.
Ledled Cymru gyfan, enillodd 21 o draethau'r statws.
Er mai ansawdd dŵr ymdrochi (bathing water) yw'r brif elfen i ennill y statws, mae ystyriaethau eraill yn cynnwys darparu gwybodaeth, addysg amgylcheddol a diogelwch ac mae achubwyr bywyd yn hanfodol.
Rhaid i'r dŵr ymdrochi fod o safon “rhagorol”, ond mae adroddiad i aelodau Cyngor Sir Ddinbych yn datgelu bod samplau a gymerwyd yn 2024 wedi’u dosbarthu’n “dda” yn unig.
Roedd y canlyniadau yn y Rhyl yn gymysg, gyda dwyrain y Rhyl yn cadw ei statws “dda” a Marine Lake yn cael ei uwchraddio o “ddigonol” i “dda”.
'Anodd'
Yn eu hadroddiad ar y cyd, dywed Paul Jackson, pennaeth priffyrdd a gwasanaethau amgylcheddol, a Tony Ward, cyfarwyddwr yr amgylchedd a’r economi Cyngor Sir Ddinbych bod problemau gydag Afon Clwyd yn golygu bod rhai traethau methu a chyrraedd y statws Baner Las.
“Bydd yn anodd i’r Rhyl fyth ennill statws y Faner Las, o ystyried pa mor agos yw Afon Clwyd a’i chyffiniau. aber, sef y prif fater o ran ansawdd dŵr ymdrochi," medden nhw.
“Mae’r seilwaith carthffosiaeth yn yr ardal wedi’i ddylunio i geisio sicrhau bod y Rhyl yn cyflawni statws ‘digonol’, sydd ymhell o’r statws ‘rhagorol’ sydd ei angen ar gyfer statws y Faner Las.
“Mae Dyffryn Clwyd hefyd yn cael ei ffermio’n ddwys, a gall mynediad da byw i nentydd fod yn ffynhonnell sylweddol o facteria sy’n effeithio ar ansawdd y dŵr.”
Gan gyfeirio at sefyllfa Prestatyn, dywedodd Tom Lewis, uwch swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru: “Yn ystod llifoedd uchel yn nalgylch Clwyd, mae dŵr yr afon yn mynd i mewn i’r môr yn y Rhyl (pedair milltir i’r gorllewin) ac yn cael ei wthio ar lanwau sy’n dod i mewn tuag at ddyfroedd ymdrochi Prestatyn.”