Newyddion S4C

Thelma Adams, un o sefydlwyr cwmni Caws Cenarth, wedi marw yn 86 oed

Thelma Adams

Mae Thelma Adams, un o sefydlwyr cwmni Caws Cenarth yn Sir Gaerfyrddin, wedi marw yn 86 oed.

Wrth gyhoeddi ei marwolaeth, dywedodd y cwmni eu bod wedi colli eu "matriarch mawr".

Daeth Ms Adams yn enwog yn 1984 ar ôl gwisgo fel Cleopatra ac eistedd mewn bath llawn llaeth oer i brotestio yn erbyn prisiau poteli llaeth.

Wrth eistedd yn hanner noeth mewn bath yn gwisgo wig Cleopatra, cafodd ei thynnu gan gerbyd drwy dref Caerfyrddin i dynnu sylw at brisiau rhad poteli llaeth.

Er ei ymdrechion, roedd Cwotâu llaeth Ewropeaidd wedi cael eu cyflwyno ym mis Ebrill 1984, oedd yn gosod cap ar faint o laeth y gallai ffermwr ei werthu bob blwyddyn heb dalu ardoll.

Image
Thelma Adams
Thelma Adams wedi gwisgo fel Cleopatra (Llun: Caws Cenarth)

Aeth Thelma a’i gŵr Gwynfor ymlaen i greu Caws Cenarth, cwmni sy’n gwerthu eu cynnyrch i archfarchnad Waitrose.

Cyhoeddodd y cwmni ar eu tudalen Facebook ddydd Sul ei bod hi wedi marw.

"Rydyn ni, fel teulu, yn hynod o drist i gyhoeddi marwolaeth ddiweddar Thelma Adams," medd y datganiad.

"Hi oedd matriach mawr Caws Cenarth, a greodd y busnes ag angerdd a gweledigaeth ym 1986, yn sgil cwotâu llaeth a osodwyd ar y pryd, gan fygythio dyfodol fferm Glynethinog.

"Rodd hi’n berson a fyddai o hyd yn meddwl tu allan y bocs. Mae’n galed cyfleu’r gwacter yng ngholled Mam, person caredig, cynnes, yn llawn angerdd ac mae wedi gadael bwlch enfawr yn ein bywydau."

Mae Caws Cenarth wedi ei leoli ar Fferm Glyneithinog, Lancych yn Sir Gaerfyrddin ac wedi bod yn creu caws ers 1903.

Adnewyddwyd y busnes gan Thelma a Gwynfor yn 1987 ac mae'r teulu wedi parhau i redeg y ffarm ers hynny.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.