Cefnu ar gynlluniau i ddatblygu safle hen blasty ym Meirionnydd
Mae cynlluniau dadleuol ar gyfer safle hen blasty ym Meirionnydd wedi eu tynnu yn ôl.
Ers iddo gael ei ddifrodi gan dân yn 2020, mae dyfodol safle’r hen Neuadd Bontddu ger Dolgellau wedi bod aneglur.
Wedi’i adeiladu’n wreiddiol ym 1873, cafodd y plasty carreg sy’n edrych dros Afon Mawddach ei droi’n westy.
Ymhlith yr enwogion a arhosodd yno roedd y Prif Weinidogion Neville Chamberlain a Winston Churchill, yn ogystal â’r actor Richard Burton.
Ond yn 2020, fe gafodd yr adeilad ei ddifrodi gan dân a laddodd wraig y perchennog.
Dair blynedd yn ôl, cyflwynodd cwmni HGG Ltd gais cynllunio er mwyn dymchwel y rhan fwyaf o’r adeilad a chodi wyth o dai moethus.
Dywedodd y cwmni y byddai’r prosiect yn costio tua £4.5 miliwn.
Ond roedd trigolion lleol wedi dadlau y byddai hynny’n or-ddatblygiad ac fe gafodd y cais ei dynnu’n ôl yr adeg honno.
Y llynedd, cyflwynodd Bontddu Developments gais tebyg i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Roedd rhai aelodau oedd ynghlwm â’r cais newydd yn gysylltiedig â HGG Ltd.
Y cynllun eto oedd dymchwel y rhan fwyaf o’r adeilad gwreiddiol gan godi tai newydd, gan gynnwys adeiladu pum tŷ i’w gwerthu ar y farchnad agored, yn ogystal â phedwar tŷ teras fforddiadwy ac un tŷ ar wahân.
Cymysg oedd yr ymateb i hynny yn lleol, ond mae’r awdurdod cynllunio bellach yn dweud bod y cynlluniau wedi’u tynnu’n ôl.