Cymeradwyo cais am dŷ ben i waered cyntaf Cymru
Mae cais ar gyfer gosod y tŷ ben i waered cyntaf yng Nghymru wedi cael ei gymeradwyo.
Mae yna 13 o dai o’r math unigryw yma yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, gyda Chyngor Caerdydd bellach wedi cymeradwyo cynlluniau am un yn y brifddinas.
Fe fydd y tŷ ar agor am gyfnod o 12 mis ar 2 Ffordd Churchill, Cathays.
Mae’r atyniad twristiaeth yn ymddangos fel cartref deulawr confensiynol – ond ei fod wedi’i droi ben i waered.
Daw’r cais cynllunio gan gwmni Upside Down House UK Ltd a gafodd ei sefydlu yn 2018.
Yn ôl y cwmni, mae dros dair miliwn o bobl wedi ymweld â'u hatyniadau yn y DU yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae’r rhan fwyaf o ymwelwyr – rhwng 80-85% – yn deuluoedd meddai'r cwmni.
Dywedodd y cais cynllunio y byddai’r atyniad yn denu mwy o dwristiaid i ganol dinas Caerdydd.
Fe fydd y tŷ yn cael ei baentio’n wyrdd gyda tho gwyn, a hynny er mwyn “adlewyrchu” lliwiau baner Cymru, meddai’r cwmni.
Bydd llwybrau ar gyfer cadeiriau olwyn ynddo ac fe fydd yna ddisgownt ar gyfer gweithwyr gofal iechyd a theuluoedd.
Yn ôl adroddiad y swyddog cynllunio, gan mai atyniad dros dro sydd yn ddigon pell oddi wrth adeiladau hanesyddol cyfagos fydd e, ni fyddai’r tŷ yn amharu ar yr ardal gadwraeth gyfagos.
Llun: Atyniad tŷ ben i wared yn Lerpwl (Upside Down House)