Newyddion S4C

Lauren Price eisiau dod a 'nosweithiau bocsio mawr' yn ôl i Gymru

Lauren Price

Mae Lauren Price yn dweud ei bod eisiau dod â "nosweithiau bocsio mawr yn ôl i Gymru" ar ôl llwyddo i amddiffyn ei theitlau pencampwriaeth pwysau welter y byd.

Roedd y bocswraig o Gaerffili yn lawer iawn yn rhy gyflym a phwerus i’w gwrthwynebydd Bexcy Mateus o Golombia, yn eu gornest yn Lerpwl nos Sadwrn.

Fe lwyddodd Price, 30 oed, i fwrw Mateus i’r cynfas ar dri achlysur cyn i’r dyfarnwr ddod â’r ornest i ben yn y trydedd rownd yn unig.

Mae’n edrych yn debyg mai’r bencampwraig y byd Natasha Jonas, o Lerpwl, fydd gwrthwynebydd nesaf y Gymraes, ar ôl i hithau hefyd ennill nos Sadwrn.

Wrth edrych i’r dyfodol ar ôl sicrhau ei wythfed fuddugoliaeth ers troi'n broffesiynol, dywedodd Lauren Price y byddai’r ornest yn un da i focsio Prydeinig.

“Gyda bob ffeit, rydw i’n dysgu ac mae yna gymaint mwy i ddod. Rydw i eisiau dod a nosweithiau bocsio mawr yn ôl i Gymru.

“I’r cefnogwyr Prydeinig, byddwn i wrth fy modd yn cwffio yn erbyn Natasha.

“Fe fyddai hynny yn ffeit ffantastig i focsio ym Mhrydain.

“Mae gen i sawl blwyddyn o fy mlaen ond blwyddyn nesaf dwi eisiau cwrso mwy o feltiau. Rydw i eisiau bod yn bencampwraig y byd yn unfrydol.”

Llun: Wochit/Getty

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.