Bwrdd Iechyd Hywel Dda: Adrannau brys 'dan bwysau sylweddol'
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi gofyn i bobl sydd ddim ag "anghenion gofal brys neu argyfwng" i beidio mynd i adrannau brys eu hysbytai gan eu bod nhw "dan bwysau sylweddol."
Mewn datganiad ddydd Sul dywedodd y bwrdd iechyd, sydd yn rheoli ysbytai yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, eu bod nhw'n galw ar bobl i ystyried yn ofalus cyn penderfynu mynd i'r ysbyty.
"Mae ein timau yn ein hadrannau achosion brys ar draws ein hysbytai o dan bwysau sylweddol.
"Helpwch ni drwy ddewis yn ofalus sut rydych yn defnyddio ein gwasanaethau, fel ein bod ond yn gweld pobl ag anghenion gofal brys neu argyfwng yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys."
Maen nhw'n gofyn i bobl wirio eu symptomau ar eu gwefan gwiriwr symptomau ac i ffonio 111 cyn meddwl mentro i'r ysbyty.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi rhestru'r anafiadau a digwyddiadau y dylid cleifion dod i'r ysbyty:
Uned Achosion Prys
- Anawsterau anadlu difrifol
- Poen difrifol neu waedu
- Poen yn y frest neu amheuaeth o strôc
- Anafiadau trawma difrifol (e.e, o ddamwain car)
Uned Mân Anafiadau
- Mân glwyfau
- Mân losgiadau neu sgaldiadau
- Brathiadau pryfed
- Mân anafiadau i goes, pen neu wyneb (* gweler y nodyn)
- Corffyn estron yn y trwyn neu'r glust
Yn ogystal maen nhw'n ceisio gwneud gymaint o le a sy'n bosib yn yr ysbyty, ac yn gofyn i bobl ceisio lleihau faint o amser maen nhw'n treulio yn yr ysbyty.
"Rydym yn canolbwyntio ar reoli’r capasiti sydd gennym yn ein hysbytai acíwt a’n hadrannau achosion brys prysur, tra hefyd yn lleihau faint o amser y mae angen i gleifion ei dreulio mewn gwely ysbyty, drwy ddarparu cymaint o ofal nad yw’n ofal brys a gofal dilynol y tu allan i amgylchedd yr ysbyty ag y gallwn.
"Os oes gennych ffrind, aelod o'r teulu neu rywun annwyl sy'n ddigon iach yn feddygol i gael eich rhyddhau o'r ysbyty, helpwch ni drwy ddod i'w casglu'n brydlon.
"Bydd hyn yn ein galluogi i ryddhau gwelyau yn gyflymach ar gyfer cleifion sy'n ddifrifol wael a chadw llif y cleifion yn gyson trwy ein hysbytai."