Newyddion S4C

Menyw wedi marw a dyn mewn cyflwr critigol ar ôl saethu

Stryd Giffard Llundain

Mae menyw wedi marw ac mae dyn mewn cyflwr critigol ar ôl saethu yn Llundain nos Sadwrn.

Cafodd yr heddlu eu galw tua 21.15 i Stryd Gifford yn Brent wedi adroddiadau o saethu.

Roedd y fenyw, y credir ei bod yn ei 40au, wedi marw yn y fan a'r lle.

Cafodd dau ddyn yn eu 30au eu hanafu hefyd. Mae un mewn cyflwr critigol yn yr ysbyty tra bod anafiadau'r llall ddim yn rhai sydd yn peryglu ei fywyd.

Dywedodd Uwcharolygydd Tony Josephs, o Uned Reoli’r Gogledd Orllewin Heddlu'r Met: “Mae hwn yn ddigwyddiad gwirioneddol ysgytwol ac rwy’n deall y pryder y bydd hyn yn ei achosi i’r gymuned leol ac ar draws Llundain.

“Mae tîm o dditectifs profiadol eisoes yn gweithio’n gyflym i roi digwyddiadau neithiwr at ei gilydd a dod o hyd i bwy bynnag oedd yn gyfrifol am y weithred erchyll hon o drais."

Nid oes unrhyw un wedi cael eu harestio hyd yma ac mae ymholiadau'r heddlu yn parhau.

Prif lun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.