![Gerwyn Price yn cael ei goroni'n Bencampwr y Byd](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2024-12/gerwyn%20price.jpeg?itok=VRrHhqZv)
Dartiau: Pwy yw'r Cymry sy'n cystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd eleni?
Fe fydd chwech o Gymry yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Dartiau'r Byd eleni, sydd yn ddwbl y nifer oedd yn cystadlu'r llynedd.
Y tro diwethaf i chwech o Gymry gymryd rhan yn y gystadleuaeth oedd 2022. Chwech yw'r nifer mwyaf erioed i gystadlu yn yr un flwyddyn.
Dechreuodd y gystadleuaeth ym Mhalas Alexandra, Llundain nos Sul, ond mae'r Cymry cyntaf yn cystadlu ddydd Llun.
Pwy felly fydd yn chwifio baner y ddraig goch yn Llundain?
Robert Owen
Robert Owen fydd y Cymro cyntaf i gystadlu eleni pan fydd yn herio Niels Zonneveld o'r Iseldiroedd nos Lun.
Dyma'r eildro yn unig i'r dyn o Ben-y-bont ar Ogwr gymhwyso ar gyfer y gystadleuaeth.
Mae'n rhif 77 ar restr detholion y byd tra bod ei wrthwynebydd yn rhif 49.
Eleni mae Owen wedi ennill 48% o'u gemau, ond fydd angen iddo fod ar ei orau er mwyn cyrraedd yr ail rownd.
Gerwyn Price
Mae 2024 wedi bod yn flwyddyn siomedig i Gerwyn Price.
Nid yw'r gŵr o Markham wedi bod ar ei orau o bell ffordd yn nifer o gystadlaethau gan gynnwys yr Uwch Gynghrair.
Gan ei fod yn un o 32 chwaraewyr uchaf y byd ar y rhestr detholion mae'n hawlio ei le yn yr ail rownd yn awtomatig.
Fe fydd yn herio Keane Barry o Iwerddon yn yr ail rownd nos Lun wedi i'r Gwyddel ennill yn erbyn Kim Huybrechts o Wlad Belg nos Sul.
Mae Price, sydd yn cyn bencampwr y byd, wedi dweud ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod yn barod ar gyfer y gystadleuaeth.
Pe bai'n ennill y gystadleuaeth eleni fe fydd yn un o lond llaw o chwaraewyr sydd wedi ennill y gystadleuaeth ar fwy nag un achlysur.
![Gerwyn Price yn cael ei goroni'n Bencampwr y Byd](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2024-12/gerwyn%20price.jpeg?itok=VRrHhqZv)
Jim Williams
Fe wnaeth Jim Williams synnu nifer y llynedd trwy ennill yn erbyn cyn bencampwr y byd Peter Wright.
Ond nid oedd yn gallu ailadrodd hynny yn erbyn cyn bencampwr y byd arall, Raymond van Barneveld yn y drydedd rownd.
Roedd Williams wedi cynrychioli Cymru yng Nghwpan Dartiau'r Byd eleni yn lle Gerwyn Price, oedd wedi tynnu allan oherwydd anaf.
Bydd Williams yn wynebu Paolo Nebrida o'r Philipinau, sydd heb fynd heibio'r rownd gyntaf ar y ddau achlysur mae wedi cymryd rhan yn y bencampwriaeth.
Bydd y Cymro yn chwarae nos Fercher 18 Rhagfyr.
Nick Kenny
Ar 19 Rhagfyr fydd Nick Kenny yn cystadlu yn y bencampwriaeth, y trydydd tro iddo wneud.
Yr Americanwr Stowe Buntz fydd yn ceisio ei rwystro rhag cyrraedd y rownd nesaf.
Eleni mae Kenny wedi ennill bron i hanner o'i gemau, y nifer fwyaf o rheini ym Mhencampwriaeth y Chwaraewyr.
Nid yw wedi mynd yn bellach na'r ail rownd yn y gorffennol, ac eleni fydd yn gobeithio gallu mynd ymhellach.
![Nick Kenny yn cystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd 2022](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2024-12/Screenshot%202024-12-15%20at%2009.34.55.png?itok=yPit2cPf)
Rhys Griffin
Rhys Griffin oedd un o'r pedwar chwaraewr olaf i sicrhau ei le ym Mhencampwriaeth y Byd eleni.
Hawliodd ei le ar ddiwrnod olaf y rowndiau rhagbrofol yn Wigan wedi iddo gyrraedd y pedwar uchaf yn y rownd olaf.
Karel Sedlacek o Czechia fydd ei wrthwynebydd yn y rownd gyntaf ar 21 Rhagfyr.
Fe fydd yn dasg anodd i Griffin, sydd yn rhif 122y byd ar y rhestr detholion, tra bod ei wrthwynebydd yn rhif 68.
Jonny Clayton
Yn wyneb cyfarwydd i lawer o gefnogwyr dartiau a chwaraewyr gorau Cymru ar y rhestr detholion, fydd Jonny Clayton yn ôl yn Llundain eleni.
Ar ôl cyfnod anodd y llynedd mae'r Ferret wedi chwarae'n well eleni, gan gyrraedd rhai rowndiau terfynol Pencampwriaeth y Chwaraewyr.
Mae'r dyfarnwr dartiau enwog Russ Bray wedi dweud y hoffai weld Clayton yn ennill Pencampwriaeth y Byd eleni.
Fydd y dasg honno yn cychwyn ar 22 Rhagfyr yn yr ail rownd naill ai yn erbyn Micky Mansell o Ogledd Iwerddon neu Tomoya Goto o Japan.
Mae'r Cymro Cymraeg o Bontyberem erioed wedi ennill y gystadleuaeth, rownd yr wyth olaf yn 2023 oedd ei rediad gorau.
Fe fydd yn obeithiol ailadrodd ei berfformiadau o 2021, pan enillodd y Grand Prix, yr Uwch Gynghrair, y Meistri a Chyfres y Byd.
Prif lun: Wochit