Newyddion S4C

Cau porthladd Caergybi: Effaith ar fusnesau'n 'llawer gwaeth na'r disgwyl'

Difrod porthladd Ceargybi

Roedd effaith cau porthladd Caergybi ar fusnesau lleol yn llawer gwaeth na'r disgwyl, yn ôl arweinydd Cyngor Ynys Môn.

Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan ddydd Mercher, dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard fod y cau wedi pwysleisio maint dibyniaeth Caergybi a'r ynys ar y porthladd.

Bu'n rhaid cau'r porthladd yn llwyr am chwe wythnos yn ystod Rhagfyr a Ionawr oherwydd difrod yn sgil Storm Darragh. Mae un o'r ddwy lanfa wedi ail-agor ers Ionawr 16.

Dywedodd y Cynghorydd Pritchard fod y cyngor newydd gwblhau arolwg o effeithiau'r cau ar fusnesau lleol.

"Cafodd effaith ar lawer mwy o fusnesau na roedden ni erioed wedi ystyried," meddai. "Roedd yn syndod gweld gymaint o fusnesau gwahanol oedd wedi dioddef." 

Ychwanegodd fod y cyngor yn casglu tystiolaeth yn y gobaith o roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa i gynorthwyo busnesau.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar 8 Ionawr eu bod yn sefydlu tasglu i edrych ar sefydlogrwydd y porthladd. Ond dywedodd y Cynghorydd Pritchard nad oedd wedi clywed unrhyw beth gan y Llywodraeth am y tasglu ers hynny.

Clywodd y pwyllgor fod 580 o bobl yn cael eu cyflogi yn y porthladd, gyda 400 o swyddi eraill yn lleol yn ddibynnol ar y porthladd.

Dywedodd Ian Davies o gwmni Stena, perchnogion porthladd Caergybi, fod y cwmni'n bwriadu cynnal adolygiad o'r hyn ddigwyddodd, ond dywedodd eu bod wedi cael rhybudd digonol gan broffwydi tywydd.

"Mi fyddwn ni'n cynnal adolygiad ar y cyd gyda'r cwmnïau fferi,  a mi nawn ni unrhyw newidiadau sydd eu hangen," meddai.

Mewn ymateb i gwestiynau ynglŷn â pham y cymerodd hi gymaint o amser i ail-agor y porthladd, dywedodd Mr Davies fod "dau digwyddiad" glanio wedi digwydd o gwmpas adeg Storm Daragh. 

Roedd y digwyddiadau yna bellach yn destun cais am yswiriant, a felly dywedodd nad oedd mewn sefyllfa i wneud sylw ar y mater.

Dywedodd ei fod yn gobeithio gallu rhoi mwy o wybodaeth yn fuan ynglŷn â phryd bydd ail lanfa'r porthladd yn ail-agor.

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.