Newyddion S4C

GWYLIWCH: Chwaraewyr Wrecsam yn cael gwersi dawnsio gan 'Magic Mike'

Channing Tatum / Wrecsam

Mae chwaraewyr CPD Wrecsam wedi cael gwersi dawnsio gan y seren Hollywood, Channing Tatum.

Mewn hysbyseb mae’r clwb wedi ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’r actor byd-enwog i’w weld yn rhoi gwersi i chwaraewyr y Dreigiau ar sut i wella eu dawnsio wrth dathlu goliau.

Yn yr hysbyseb, mae Mr Tatum, seren y ffilm boblogaidd Magic Mike, yn dangos ei symudiadau i’r chwaraewyr yn ystafell newid y Cae Ras er mwyn eu hannog i wella’u dathliadau.

Gwyliwch y fideo yma:

“Maen nhw wedi eich gweld chi’n sgorio, ond nawr mae angen iddyn nhw deimlo chi’n sgorio,” meddai Mr Tatum yn y fideo.

Yna mae holl chwaraewyr y tîm, gan gynnwys Paul Mullin a Stephen Fletcher, i’w gweld yn ymuno â’r dawnsio cyn i’r rheolwr Phil Parkininson gerdded i mewn ar yr olygfa.

Fe fydd Wrecsam yn gobeithio arddangos y dathliadau yn eu gêm nesaf yn erbyn Bolton Wanderers nos Fawrth 11 Chwefror.

Llun: CPD Wrecsam

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.