Heddlu'n ymchwilio wedi i gyllell gael ei darganfod mewn bag disgybl ysgol
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio wedi i gyllell gael ei darganfod mewn bag o eiddo disgybl ysgol.
Cafodd y llu eu galw i Ysgol Bryntirion ym Mhen-y-bont ar Ogwr am 15.00 ddydd Gwener 31 Ionawr.
Dywedodd yr heddlu fod dau ddisgybl blwyddyn 10 yn "rhan o ddigwyddiad" a gafodd ei recordio a'i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bellach mae'r fideo honno wedi ei dileu ar ôl cais gan swyddogion.
Nid oedd unrhyw un wedi cael eu hanafu.
Dywedodd Gareth Newman o Heddlu'r De bod ymchwiliad ar y gweill i ddod o hyd i "amgylchiadau llawn y digwyddiad" a bod bachgen 15 oed yn cynorthwyo'r llu gyda'r ymchwiliad hwnnw.
Dyffryn Aman
Ddydd Llun cafodd merch, nad oes modd ei henwi oherwydd ei hoedran, ei dyfarnu’n euog o dri chyfrif o geisio llofruddio yn Ysgol Dyffryn Aman.
Roedd y ferch wedi gwadu ceisio llofruddio dwy athrawes, Fiona Elias a Liz Hopkin, a disgybl yn yr ysgol yn Sir Gaerfyrddin ar 24 Ebrill y llynedd.
Ers iddi ei chael yn euog, mae Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, wedi dweud bod angen “dysgu gwersi” o’r hyn ddigwyddodd
“Mae hwn yn ddigwyddiad difrifol sydd ddim yn digwydd yn aml ond mae angen dysgu gwersi i sicrhau ei fod ddim yn digwydd eto," meddai.
“Mae pethau’n gwaethygu i ryw raddau. Rydw i’n clywed straeon - mae fy ngwraig yn athrawes a’n chwaer yn athrawes yng Nghaerdydd hefyd.
“Mae’n bwysig bod unigolion sydd wedi bod trwy’r trawma ac wedi bod drwy'r math yma o brofiadau yn cael y cyfle i siarad â phobl sy’n creu polisi yn y maes."
'Annerbyniol'
Daw ei sylwadau wedi i Fiona Elias siarad y tu allan i’r llys ddydd Llun gan ddweud bod yr euogfarn yn “ddyfarniad mor bwysig, nid yn unig i fi, ond i bob athro”.
“Ni ddylai unrhyw aelod o staff mewn ysgol deimlo’n ofnus am ei ddiogelwch ei hun wrth gyflawni dyletswyddau o ddydd i ddydd a gofyn i ddisgyblion gyd-ymffurfio gyda rheolau’r ysgol,” meddai.
“Hoffwn wahodd yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru i gwrdd â mi er mwyn cynnal trafodaethau, gan fy mod am sicrhau nad oes unrhyw aelod o staff yn mynd trwy’r hyn yr aeth Liz a finnau trwyddo ym mis Ebrill y llynedd.
“Mae trais geiriol a chorfforol tuag at aelodau staff yn gwbl annerbyniol, ac mae’n rhaid sicrhau nad yw’r digwyddiad hwn yn digwydd eto yn unman arall.
“Dylid ystyried y dyfarniad hwn heddiw fel neges glir i ddisgyblion ledled y wlad."