Newyddion S4C

Chris McCausland yn ennill Strictly Come Dancing

Chris McCausland yn ennill Strictly Come Dancing

Mae'r digrifwr Chris McCausland, y cystadleuydd dall cyntaf ar Strictly Come Dancing, wedi ennill y gystadleuaeth.

Fe enillodd rownd derfynol y gystadleuaeth nos Sadwrn wedi'r bleidlais gyhoeddus, gyda'r canwr JB Gill, seren Love Island Tasha Ghouri a'r actores Sarah Hadland hefyd yn cystadlu.

Ef a'i bartner Dianne Buswell oedd y ffefrynnau i ennill i gystadleuaeth ddawns ar y BBC.

Wrth iddo gael ei gyflwyno gyda'r tlws dywedodd bod y fuddugoliaeth i'w bartner ac yn dangos bod unrhyw beth yn gallu digwydd.

"Roedd hyn iddi hi ac i bawb yna sydd wedi gorfod derbyn rhywun yn dweud wrthyn nhw bod nhw methu gwneud rhywbeth neu feddwl bod nhw ddim yn gallu gwneud rhywbeth.

"Mae hwn yn dangos gyda chyfleoedd, cefnogaeth a phenderfyniad, fe allai unrhyw beth ddigwydd."

Cafodd McCausland, sydd yn 47 oed, ei gofrestru'n ddall ar ôl colli ei olwg yn raddol oherwydd retinitis pigmentosa yn ei 20au a'i 30au.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.