'Newidiadau mwyaf arwyddocaol ers degawd' i wasanaethau trenau yng Nghymru
Bydd y newidiadau "mwyaf arwyddocaol i wasanaethau trenau yng Nghymru ers degawd" yn dod i rym ddydd Sul.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog teithwyr i wirio cyn teithio ddydd Sul wrth iddyn nhw osod amserlen newydd mewn lle.
Dyma fydd y newidiad "mwyaf arwyddocaol ers degawd" meddai'r cwmni trafnidiaeth.
Maen nhw'n cynnwys gosod mwy o drenau ar reilffyrdd de Cymru a'r gororau yn ogystal â chynnwys gwasanaethau hwyrach mewn rhai ardaloedd.
Dyma rai o'r prif newidiadau fydd yn dod i rym ddydd Sul:
- Cyflwyno trenau Dosbarth 756 newydd sbon ar Linellau Craidd y Cymoedd a threnau teithio llesol pwrpasol gyda lleoedd ychwanegol ar gyfer beiciau, ailwampiad llawn a lifrai pwrpasol ar gyfer llinell Calon Cymru.
- Newidiadau i'r patrwm galw ar rai gwasanaethau rhwng Caerdydd a Manceinion Piccadilly, i gyflymu rhai trenau a chyflwyno patrwm safonol yn yr amserlen.
- Trên olaf hwyrach o Abertawe i Gaerdydd a fydd yn gadael am 11:30yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.
- Ymadawiadau mwy cyson gyda mwy o drenau yn gadael ar yr un pryd wedi’r awr.
- Bydd gwasanaethau Cheltenham Spa yn dechrau ac yn gorffen yng Nghaerdydd Canolog.
- Dau wasanaeth ychwanegol ar gyfer Aberdaugleddau a gwasanaethau wedi’u gwasgaru’n fwy cyson drwy’r dydd i Borthladd Abergwaun, sy'n cael gwared ar y bwlch o chwe awr heb drenau yng nghanol y dydd.
- Ymadawiadau mwy cyson gyda mwy o drenau yn gadael ar yr un pryd wedi’r awr.
- Bydd Canghennau Gogledd Cymru yn parhau i weld 100% o’u teithiau yn cael eu gwneud ar fflyd newydd a bydd Prif Linell Gogledd Cymru yn gweld dros 80% o’u teithiau yn rhedeg ar fflyd newydd.
Mae'r newidiadau wedi cymryd dros bedair blynedd i'w gosod, ac mae Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru yn dweud bydd profiad cwsmeriaid yn gwella.
"Rydyn ni wedi buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd a nawr yw'r amser i wneud y mwyaf ohonynt," meddai Colin Lea.
"Rydym wedi bod yn gweithio tuag at yr amserlen hon ers pedair blynedd bellach a bydd y cysondeb y bydd yn ei ddarparu yn welliant enfawr i lawer o gwsmeriaid.
"Er bod hyn yn newid mawr, mae gwelliannau mawr hefyd wedi'u cynllunio ar gyfer Llinellau Arfordir Gogledd Cymru a’r Cambrian yn ystod y 18 mis nesaf gyda threnau mwy newydd a gwelliannau o ran capasiti."