Seren Magic Mike yn cadw cwmni i Ryan Reynolds mewn tafarn yn Wrecsam
Roedd seren Magic Mike, Channing Tatum, yn westai i Ryan Reynolds mewn bwyty yn Wrecsam nos Wener.
Cafodd llun o’r sêr Hollywood Channing Tatum, Ryan Reynolds, yr actor Brandon Sklenar a’u cyfeillion ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol wrth iddyn nhw ymweld â thafarn y Fat Boar.
“Noson dawel arall yn y boar,” dywedir neges gan gyfrif y tafarn wrth rannu’r llun.
Fore Sadwrn, fe rannodd Mr Tatum lun o’i hyn yn gwisgo sgarff y tîm.
“Mwyaf sydyn rydw i yng Nghymru ac yn barod i wylio gêm Wrecsam. Let’s gooo,” meddai wrth ei 17.4 miliwn o ddilynwyr ar Instagram.
Inline Tweet: https://twitter.com/Wrexham_AFC/status/1867946363431813271
Dywedodd Mr Reynolds ei fod yn ‘gyffrous’ i ymweld â’r ddinas unwaith eto, wrth i’r Dreigiau baratoi i herio Caergrawnt mewn gêm Adran Un.
Prif lun: Ryan Reynolds, Channing Tatum a Brandon Sklenar (dde) gyda ffrindiau (Facebook/The Fat Boar Wrexham)