Gweddw cyn-chwaraewr rygbi Lloegr fu farw mewn afon yn diolch am gefnogaeth
Mae gwraig weddw cyn-chwaraewr rygbi Lloegr fu farw mewn afon yn ystod Storm Darragh wedi diolch am gefnogaeth pawb fu'n chwilio amdano.
Cafodd car y cyn asgellwr 43 oed Tom Voyce ei olchi i ffwrdd wrth groesi Afon Aln ger Alnwick, Northumberland, y penwythnos diwethaf.
Daethpwyd o hyd i’w gorff yn yr afon ddydd Iau, rai cannoedd o fetrau i lawr yr afon o’r rhyd.
Dywedodd ei wraig Anna mewn datganiad: “Nid yw hollol ddigalon a thorcalonnus hyd yn oed yn disgrifio sut rydyn ni’n teimlo.
“Rydw i’n canolbwyntio rŵan ar ein mab Oscar, ar ôl gwneud yr hyn a ofynnodd: ‘ffeindia Dadi’.
“Roedd holl deulu Tom yn rhan o’r chwilio.
“Byddaf yn ddiolchgar am byth i fy mrodyr Hugh a Jamie, Aidan Philipson a Garry Whitfield am gydlynu’r parti chwilio gan weithio ochr yn ochr â thimau’r heddlu.
“Byddai Tom wedi ei synnu gan faint o bobl oedd allan yna yn helpu.
“Rydyn ni i gyd wedi cael ein syfrdanu gan gefnogaeth ffrindiau, gyda llawer yn teithio o bell i helpu gyda’r chwilio.
“Rydyn ni mor ffodus i fyw mewn cymuned mor arbennig a ddaeth at ei gilydd i ddod o hyd i Tom.”