Dyn yn y ddalfa ar ôl i'r heddlu ddod o hyd i ffatri ganabis ger Aberteifi
Mae dyn wedi'i gadw yn y ddalfa ar ôl i'r heddlu ddod o hyd i blanhigion canabis gwerth hyd at £242,000 mewn tŷ gwag yn ardal Aberteifi.
Fe wnaeth Manuel Nerguti, 20 oed, ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd, ar ôl iddo gael ei gyhuddo o gynhyrchu cyffur dosbarth B yn dilyn cyrch ym Mridell.
Cyflwynodd swyddogion warant i archwilio'r tŷ, lle darganfuwyd 260 o blanhigion canabis.
Cyflawnwyd y warant fel rhan o Ymgyrch Scotney, sef ymateb Heddlu Dyfed-Powys i ffatrïoedd canabis ar raddfa ddiwydiannol sy'n cael eu sefydlu gan gangiau troseddol yn ardal y llu.
Cafodd Mr Nerguti, ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 11 Gorffennaf.