Newyddion S4C

Syr Gerald Davies yn galw am gydnabod gwirfoddolwyr wrth gael ei urddo'n farchog

James Manning/PA Wire

Mae cyn-seren rygbi Cymru, Gerald Davies, wedi galw am fwy o gydnabyddiaeth a chefnogaeth i wirfoddolwyr ar ôl cael ei urddo'n farchog yng Nghastell Windsor.

Chwaraeodd Syr Gerald, sy'n 80 oed, i Gymru am 12 mlynedd yn y 1960au a'r 1970au ac enillodd dair Camp Lawn, cyn gwasanaethu fel llywydd Undeb Rygbi Cymru.

Cafodd ei anrhydeddu gan Dywysog Cymru mewn seremoni ddydd Mercher am ei wasanaethau i'r undeb rygbi, ond hefyd am ei wasanaeth gwirfoddol ac elusennol yng Nghymru.

Mae cyn-asgellwr y Llewod wedi bod yn gadeirydd Asiantaeth Ieuenctid Cymru a Chlwb Busnes Caerdydd, ac mae hefyd wedi helpu'r RNLI yn Nhyddewi.

Gwirfoddoli

Gan siarad am ei waith ar ôl cael ei urddo'n farchog, dywedodd Syr Gerald wrth asiantaeth newyddion PA: “Rydw i wedi gwneud llawer o bethau lleol, dim byd mewn cyd-destun rhyngwladol mawr dw i ddim yn meddwl, ond rhoi fy amser, pan ofynnir amdano, ar gyfer sefydliadau bach, cyfraniadau gwirfoddol i beth bynnag sy'n digwydd yn y gymuned.

“Yr hyn nad yw pobl yn aml yn cydnabod nac yn rhoi clod amdano yw faint o waith gwirfoddol sy'n cael ei wneud gan bobl ledled y wlad, mewn clybiau bach, sefydliadau bach, ond maen nhw'n rhoi o'u hamser yn rhydd, heb dâl, ac rwy'n credu bod angen i ni gefnogi'r rheini mewn llawer mwy nag yr ydym wedi'i wneud.

“Os ydych chi'n rhoi pris ar gyfraniad gwirfoddol, mae'n dod yn faich enfawr ar y sefydliad hwnnw.

“Mae angen i ni eu cydnabod a'u canmol yn fwy nag yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd.”

Dywedodd Syr Gerald ei fod wrth ei fodd o gael ei urddo, gan ei fod yn cynrychioli “anrhydedd fawr” yn ei fywyd.

Cyflwr rygbi Cymru

Mae tîm cenedlaethol dynion Cymru wedi gorffen yn olaf yn y ddwy bencampwriaeth ddiwethaf, ac heb ennill gêm yn y naill dwrnamaint na'r llall

Mae'r tîm ar hyn o bryd heb hyfforddwr yn dilyn ymadawiad Warren Gatland.

Dywedodd Syr Gerald bod angen i'r tîm ailddarganfod "meddylfryd ennill" i ddechrau cystadlu am anrhydeddau mawr unwaith eto.

"Y tric yw cael yr un gêm honno, un gêm lwyddiannus, er mwyn i chi allu dod allan o'r rhigol, i gasglu'r momentwm i fynd ymlaen i gael canlyniadau gwell yn y dyfodol, ac mae'n rhaid i hynny ddigwydd yn eithaf cyflym, dwi'n meddwl." 

Wrth drafod ei yrfa ei hun, dywedodd Syr Gerald ei fod yn "amser gwych" i chwarae rygbi i Gymru, lle enillodd 46 cap, gan ymddangos gyda'r un chwaraewyr ar y cae am flynyddoedd lawer.

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.