Newyddion S4C

Rhybudd y gallai prifysgolion fynd i'r wal oherwydd toriadau

Prifysgol

Mae perygl y gallai prifysgolion yng Nghymru fynd i'r wal y flwyddyn nesaf, yn ôl rhybudd gan undeb llafur.  

Dywedodd Dan Beard, sy'n cadeirio fforwm addysg uwch undeb Unsain Cymru wrth bwyllgor addysg y Senedd fore Mercher bod perygl i brifysgolion fynd i drafferthion mawr: “Heb newid, byddwn yn gweld prifysgolion yn mynd i'r wal, neu'n crebachu yn sylweddol.”

Tra'n rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad ar addysg uwch, a gafodd ei sefydlu yn sgil toriadau i sefydliadau addysg ar hyd a lled Cymru, galwodd undeb Unsain ar i weinidogion ymyrryd ar frys. 

“Mae bron pob un prifysgol yn cyflwyno toriadau,” dywedodd Mr Beard wrth yr ymchwiliad.

Yn ôl Unsain, dyw cyhoeddiad Llywodraeth Cymru fis Chwefror i gyfrannu £18.5 miliwn i brifysgolion "ddim yn ddigon o bell ffordd" gyda Phrifysgol Caerdydd yn unig yn wynebu diffyg o £30 miliwn.  

“Heb strategaeth a chynllun ariannu, bydd prifysgolion Cymru yn parhau i grebachu, yn cael gwared â staff, ac yn dod â chyrsiau i ben os nad yw'n broffidiol i'w cynnal,”  dywedodd yr undeb mewn tystiolaeth ysgrifenedig.  

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae prifysgolion ledled y DU yn wynebu cyfnod heriol yn ariannol ac rydym yn disgwyl i'r holl sefydliadau gyd-weithio gyda staff a myfyrwyr i sicrhau bod pawb sydd wedi eu heffeithio yn derbyn cefnogaeth.

"Rydym wedi clustnodi £28.5 miliwn mewn cyllideb grant i brifysgolion yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf."

Rhwystredigaeth 

Mynegodd Unsain rwystredigaeth gyda Llywodraeth Cymru gan ddadlau eu bod yn aros i weld sut y bydd gweinidogion y Deyrnas Unedig yn ymateb yn gyntaf. 

"Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, ni allwn fforddio aros," meddai'r undeb.   

Rhybuddiodd Unsain bod cannoedd o ddiswyddiadau wedi eu hargymell a allai fod yn gwbl ddinistriol i Gymru. “Mae gwir berygl y gallai prifysgol yng Nghymru fynd i'r wal y flwyddyn nesaf,” rhybuddiodd Unsain.

Yn ystod y drafodaeth, dywedodd Gareth Lloyd, swyddog gydag undeb UCU, bod eu haelodau wedi eu llorio gan gyhoeddiad Prifysgol Caerdydd ar dorri swyddi. 

Ychwanegodd Mr Lloyd: “Ar bob lefel, mae'n rhaid i drafodaethau gael eu cynnal yn gynnar - dydech chi ddim yn mynd at y wasg, gwneud cyhoeddiadau a rhoi swyddi bobl mewn perygl.”

Awgrymodd hefyd y gallai'r sefyllfa gael effaith ar fyfyrwyr, gyda rhai yn ail ystyried eu penderfyniadau wrth ddewis prifysgol. 

Yn ystod y cyfarfod, ychwanegodd Mr Beard “Yn breifat, roedd nifer o uwch reolwyr mewn prifysgolion eraill wedi rhyfeddu at y modd y deliodd Prifysgol Caerdydd â'r sefyllfa. Yn y saith sefydliad arall ar hyd a lled Cymru, fy ddywedon nhw taw dyna oedd y ffordd anghywir i drin y mater.”

Dywedodd Lynne Hackett, uwch swyddog addysg uwch gydag Unsain Cymru fod cyhoeddiad Prifysgol Caerdydd wedi achosi straen enfawr ar staff. 

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd eu bod nhw wedi bod yn "agored a thryloyw" am sefyllfa ariannol y brifysgol.

"Rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod staff a myfyrwyr yn clywed y newyddion gyntaf.

"Nid yw'n gywir ein bod ni wedi mynd at y cyfryngau cyn dweud wrth ein cymuned am y newidiadau posib.

"Trwy gydol y broses ymgynghori ddiweddaraf rydym wedi cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb lle'r oedd gan staff cyfle i ofyn cwestiynau a hefyd roedd staff a myfyrwyr yn derbyn e-byst yn eu diweddaru gyda'r newidiadau posib."

Ychwanegodd y brifysgol: "Rydym yn deall yr effaith y mae'r misoedd diwethaf wedi ei gael ar bob aelod o staff.

"Fel gyda phob prifysgol yng Nghymru a'r DU, rydym yn wynebu heriau sylweddol i'n cynaliadwyedd, ac mae hyn wedi golygu bod angen gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn.

"Os oes angen cyngor, cymorth a chefnogaeth ar staff, rydym yn eu hannog i gysylltu ar unwaith. Rydym yn parhau i chwilio am gyfleoedd i wella'r cynnig hwn, mewn partneriaeth ag undebau llafur."

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.