Tair blynedd dan glo i ddyn am ddefnyddio bachgen ifanc i gludo cyffuriau
Mae dyn ifanc 18 oed wedi cael ei ddedfryd i dair blynedd dan glo ar ôl defnyddio bachgen 14 oed i gludo cyffuriau ar ei ran.
Cafodd Tyler Barnsley o Dredegar ei ddedfrydu i gyfnod mewn canolfan i droseddwyr ifanc am drosedd caethwasiaeth fodern yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher.
Roedd Barnsley yn delio cyffuriau yn Nhredegar, ond ar 27 Medi 2024, aeth yr heddlu ati i gynnal cyrch lle'r oedd yn gwerthu cyffuriau gan ddod o hyd i ganabis, ffonau symudol, cloriannau ac arian parod.
Pan ddadansoddwyd y ffonau, fe ddaeth yr heddlu o hyd i negeseuon a oedd yn dangos bod Barnsley yn delio cocên a chanabis a’i fod yn defnyddio bachgen 14 oed i ddanfon cyffuriau a chasglu arian ar ei ran yn ardal Blaenau Gwent.
Dywedodd Louisa Robertson o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd Tyler Barnsley yn gwybod ei fod yn recriwtio plentyn i fod yn rhan o'i weithgareddau troseddol peryglus, ac ni ddangosodd unrhyw bryder am les y plentyn, dim ond meddwl amdano’i hun a’i elw o'r cyffuriau.
“Roedd yr ymchwiliad gan Heddlu Gwent yn caniatáu i Wasanaeth Erlyn y Goron gyflwyno achos cryf, gan arwain at Barnsley yn pledio'n euog.
“Mae defnyddio plant i elwa o weithgareddau troseddol yn wrthun, a bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn erlyn y rheini sy’n gwneud hynny pryd bynnag y bodlonir ein prawf cyfreithiol.”