
Gallai cerddoriaeth draddodiadol Cymru ddod i ben o fewn cenhedlaeth 'heb ymyrraeth frys'
Fe allai cerddoriaeth draddodiadol Cymru ddod i ben o fewn cenhedlaeth "heb ymyrraeth frys", yn ôl adolygiad a gafodd ei gomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae'r adolygiad wedi dod i'r casgliad nad yw'r strwythurau addysgol a chymunedol yng Nghymru bellach yn ddigon i gadw’r traddodiad yn fyw.
Ond mae'r adroddiad yn dweud mai "darnio cymunedol" a "diffyg ariannu ers tro ar addysg gerddoriaeth" oedd yn gyfrifol am hyn yn hytrach na diffyg diddordeb.
Fe gyfrannodd 280 o bobl sylwadau i'r adolygiad a gafodd ei arwain gan Angharad Wynne sydd â dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector.
"Nid yw’r hen ffyrdd o drosglwyddo sgiliau ac alawon traddodiadol yn gweithio erbyn hyn ac mae eisiau cefnogaeth ac ymyrraeth ar frys," meddai.
"Roedd llawer o’n trafodaethau’n sôn am fywiogi ar lawr gwlad, ond roeddem hefyd yn edrych ar ecosystem y sector lle mae pob rhan yn effeithio ar un arall.
"Mae’n cynnwys cerddorion sy’n rhannu eu doniau’n rhyngwladol, hyfforddiant i gerddorion, rhai sy'n dysgu chwarae offeryn a rhai sy’n darganfod y fath gerddoriaeth am y tro cyntaf."

Mae Cyngor y Celfyddydau wedi croesawu'r adolygiad ac wedi mwy na threblu'r buddsoddiad yn y maes.
Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor y Celfyddydau, bod "angerdd mawr dros ein cerddoriaeth draddodiadol".
"Roedd yr ymgynghoriad yn dangos yr angen mawr am ragor o gydlyniant a chefnogaeth ac am broffil uwch i’r maes," meddai.
"Rydym yn ymateb drwy neilltuo £300,000 i’r maes eleni sy’n gynnydd o 270% ar yr arian penodol i'r maes cyn yr Adolygiad Buddsoddi."
Ychwanegodd y bydd y cyllid yma yn mynd law yn llaw gyda grantiau fel rhai Creu sy'n parhau i ariannu gweithgarwch gwerin.
Gorymateb?
Yn ôl y canwr a'r cerddor gwerin Gwilym Bowen Rhys efallai bod hyn yn "orymateb".
"Mae'n rhaid i ni gofio bod y diwydiant recordiau er enghraifft, fysa 'na lot yn dadlau bod o’n marw ar hyn o bryd," meddai ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.
"Mae o gwmpas 100 mlynedd ers i bobl dechrau gwario arian ar gerddoriaeth i fynd adre efo nhw. Os da ni’n mynd nôl canrif, i'r 1920au, falle bod recordiau yn dechrau dod yn beth, bod pobl yn dechrau gwario ar gerddoriaeth i fynd adre efo nhw - a wedyn mae prynu cerddoriaeth yn y ffordd yna yn marw rŵan.
"Felly, yn hanes dynoliaeth, a felly mewn hanes cerddoriaeth sy’n filoedd ar filoedd ar filoedd oed, mae’r hanes o brynu cerddoriaeth jyst yn blip bach mor fach yn hanes cerddoriaeth, ond 'da ni wastad wedi a canu a dydi o ddim yn ddibynnol ar arian.

"Da ni ddim yn mynd i stopio neud cerddoriaeth jyst achos bod 'na lai o arian, mae’n reddf naturiol dynol i fod isho rhannu cerddoriaeth a cyd ganu.
"Hyd yn oed os fysa’r gwariant yn y diwydiant yn sychu’n llwyr erbyn fory, dydi hynna ddim yn golygu bod pobl yn mynd i stopio canu a stopio chwarae offerynnau, felly dwi’n meddwl bod 'na dipyn bach o orymateb."
Fe aeth ymlaen i ddweud bod mwy o ddiddordeb mewn cerddoriaeth draddodiadol.
"Fysa lot yn dadlau bod cerddoriaeth werin wedi mynd trwy dipyn o adfywiad yn y degawdau diwethaf," meddai.
"Yn bendant mae 'na fwy o ddiddordeb a mwy o artistiaid. Mae’r artistiaid yn mynd a dod mewn ffordd, ond yn bendant yn y 10 mlynedd diwethaf mae 'na fwy o artistiaid Cymraeg yn rhyddhau cerddoriaeth fysa ti’n galw’n gerddoriaeth draddodiadol neu gerddoriaeth werin."
Fodd bynnag, mae’n cydnabod bod diffyg cyfleoedd i ddysgu cerddoriaeth a dawns gwerin mewn ysgolion yng Nghymru.
Beth mae'r adroddiad yn ei argymell?
Ymhlith argymhellion yr adroddiad mae:
- cefnogi gweithgarwch rhanbarthol ar lawr gwlad
- meithrin partneriaethau newydd gyda chyrff addysg
- darparu cefnogaeth i ddatblygu cerddorion
- gwella cyfathrebu a chydlyniant y sector
Mae'n cyfeirio at fodelau llwyddiannus yn yr Alban, Iwerddon a Gwlad Belg ac at ein potensial i ddysgu oddi wrth wledydd eraill.
Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Prif lun: Aled Llywelyn EGC