Newyddion S4C

Trump yn gwrthod adroddiadau nad yw rhaglen niwclear Iran wedi ei dinistrio

Donald Trump yn y situation room

Mae Donald Trump wedi gwrthod adroddiadau cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau sydd wedi awgrymu nad yw rhaglen niwclear Iran wedi cael ei dileu. 

Mae'r adroddiadau cynnar wedi awgrymu nad oedd ymgais yr Unol Daleithiau i fomio tri o safleoedd niwclear Iran nos Sadwrn wedi llwyddo i ddileu gallu'r wlad i gyfoethogi wraniwm yn ôl CNN.

Dywedodd yr asiantaeth newyddion fod yr adroddiadau wedi eu cynhyrchu gan yr Asiantaeth Cudd-wybodaeth Amddiffyn, sef cangen cudd-wybodaeth y Pentagon. Mae'n seiliedig ar asesiad difrod a gynhaliwyd wedi'r ymosodiadau.

Mae'r adroddiadau wedi amcangyfrif fod rhaglen niwclear Iran wedi'i gohirio llai na chwe mis, meddai'r New York Times.

Ond mae'r Arlywydd Trump wedi gwrthod yr adroddiadau fel "newyddion ffug".

Mewn neges ar ei blatfform cyfryngau cymdeithasol Truth Social, dywedodd bod y safleoedd niwclear wedi'u "dinistrio'n llwyr".

"MAE NEWYDDION FFUG CNN, YNGHYD Â'R AFLWYDDIANNUS NEW YORK TIMES SY'N METHU, WEDI YMUNO GYDA'I GILYDD MEWN YMGAIS I FYCHANU UN O'R YMOSODIADAU MILWROL MWYAF LLWYDDIANNUS MEWN HANES," meddai.

"MAE'R SAFLEOEDD NIWCLEAR YN IRAN WEDI'U DINISTRIO'N LLWYR! MAE'R TIMES A CNN YN CAEL EU BEIRNIADU GAN Y CYHOEDD!"

Mae gweinyddiaeth Trump wedi parhau i wrthod yr adroddiad sy'n dweud nad oedd ymosodiadau'r Unol Daleithiau ar Iran wedi dileu ei rhaglen niwclear.

Yn y cyfamser, mae'n ymddangos bod cadoediad yn parhau ei le rhwng Iran ac Israel ar ôl i'r ddwy wlad ymosod ar ei gilydd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.