'Roedd camdriniaeth yn normal': NSPCC yn derbyn mwy o alwadau nag erioed o'r blaen
Mae menyw wedi siarad yn agored am gael ei cham-drin gan ei thad, heb i unrhyw un wybod am flynyddoedd.
Daw hyn wrth i elusen rybuddio am gynnydd mewn galwadau i'w llinell gymorth.
Yn ôl yr NSPCC, mae galwadau gan oedolion sy'n pryderu am blant yn cael eu cam-drin wedi cyrraedd eu lefel uchaf ar gofnod.
Cafodd Jess Finnegan ei magu mewn pentref bach yng ngogledd Cymru, lle’r oedd ei thad yn aelod gweithgar o'r gymuned leol - gofalwr ysgol a oedd hefyd yn rhedeg clwb ieuenctid ac yn gweithio mewn bar lleol.
"Roeddwn i tua chwech blwydd oed pan wnaeth o daro fy mam o ‘mlaen i am y tro cyntaf," meddai.
"Rwy'n cofio cerdded i mewn a gweld hi yn erbyn y wal. Roedd o wedi ymosod arni ac wedi’i gollwng hi.
"Wnaeth o gerdded allan o'r ystafell, a wnaeth fy mam gario ‘mlaen fel pe bai dim byd wedi digwydd, oherwydd roedd hi’n ceisio mor galed i'n hamddiffyn ni."
'Safle adeiladu'
Cafodd Jess Finnegan ei cham-drin hefyd.
"Roedd o’n ddigon clyfar i'n taro ni lle doedd o ddim yn amlwg, felly fydden ni ddim yn mynd i'r ysgol gyda chleisiau," meddai.
"Roedd y tŷ wastad yn edrych fel safle adeiladu oherwydd ei ddicter - roedd e’n rhwygo waliau, roedd ‘na dyllau yn y waliau, bydden ni’n mynd i'r toiled a gweld y lloriau wedi'u codi, a gallech chi weld i mewn i'r nenfwd.
"Wnes i sylweddoli yn fy arddegau mai i’n goruchwylio ni oedd hyn. Un diwrnod, dywedodd ei fod o’n mynd i'r gwaith, ond fe aeth o i fyny i'r atig i’n gwylio ni.
"Dwi’n cofio eisiau iddo fy ngharu, ond gwaethygodd yr aflonyddu."
Yn y diwedd, aeth Jess, ei mam a'i brawd i loches menywod ac yna yn ôl i’w cartref eu hunain. Dyna pan ddechreuodd ei thad eu stelcio - yn dwyn allweddi, hyd yn oed, i fynd mewn i'r tŷ.
"Es i drwy gyfnod yn fy arddegau yn meddwl fy mod yn gweld pethau, oherwydd bydden i'n deffro ganol nos a byddai o yno yn fy ‘stafell wely," meddai.
"Dwi’n cofio un tro, fe es i mewn i'r cyntedd a gweld ei wyneb wedi'i oleuo gan oleuni'r lleuad a dywedais i, ‘Mae'n iawn, ‘sdim angen poeni’, ond daeth o i'r amlwg flynyddoedd wedyn fod e wedi bod yn y tŷ."
Mae Jess Finnegan yn dweud ei bod hi’n anodd siarad am yr hyn oedd yn digwydd, ac roedd ei mam yn ofni byddai gwneud hynny yn gwaethygu'r sefyllfa.
"Fel plentyn, dyma oedd fy normal i - doeddwn i ddim yn gwybod yn wahanol. Ro’n i’n cymryd bod pob plentyn arall yn mynd trwy'r un peth," meddai.
Pan ddaeth yr aflonyddu yn gyhoeddus flynyddoedd yn ddiweddarach, fe ddywedodd pobl yn y gymuned bod ganddyn nhw amheuon ar y pryd.
Cynnydd yn y ffigyrau
Yn ôl yr NSPCC, mae galwadau i’w llinell gymorth lles plant gan oedolion sydd’n poeni am drais yn y cartref wedi cynyddu 14%.
Y llynedd, deliodd llinell gymorth yr NSPCC gyda 7,825 o achosion lles plant gan oedolion lle'r oedd y prif bryder yn gysylltiedig â thrais domestig.
Hwn yw’r cyfanswm blynyddol uchaf ers i'r llinell gymorth ddechrau cofrestru cam-drin yn y cartref fel prif bryder yn 2021/22.
Cafodd traean y galwadau lles plant am gam-drin domestig eu trosglwyddo i asiantaethau lleol, gan gynnwys yr heddlu a gwasanaethau cymdeithasol plant.
Mae Jess yn dweud bod y ffigyrau yn "torri ei chalon".
“Ar un llaw, mae'n wych i weld cymaint o bobl yn blaenoriaethu diogelwch plant yn eu cymunedau ac yn siarad er lles plant; ond, ar y llaw arall, dydyn ni ddim wedi dysgu unrhyw wersi," meddai.
“Mae angen i ni gefnogi plant, ac mae hynny'n ymestyn i'r teulu cyfan - effeithiodd hyn ar fy nheulu i gyd."
Gofyn am help
Cyngor Jess Finnegan i unrhyw un sydd ag unrhyw bryderon am blentyn yw "dywedwch rhywbeth".
“Os oes gennych chi’r mymryn lleiaf o amheuaeth, ewch i'r NSPCC; neu os ydych chi'n meddwl bod perygl nawr, ewch at yr heddlu,” meddai.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi darparu "dros £2m o arian ychwanegol i gefnogi cyflwyno Strategaeth VAWDASV, sy'n cynnig cymorth a chyngor i ddioddefwyr ledled Cymru".
"Rydym hefyd yn parhau i weithio'n agos gyda rhanbarthau i ddeall eu prif flaenoriaethau, sy'n cynnwys adnabod gwasanaethau therapiwtig i blant a phobl ifanc," meddai'r llefarydd.