Cyflwyno brechlyn newydd yn erbyn gonoroea yng Nghymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl sy’n cael rhyw i fod yn “ddiogel” wrth iddyn nhw gyflwyno rhaglen frechu newydd yn erbyn gonoroea.
Mae disgwyl i’r brechlyn gael ei gyflwyno gan wasanaeth iechyd cyhoeddus Cymru ym mis Awst 2025.
Gonoroea ydy haint sy’n cael ei drosglwyddo’n rhywiol (STI). Mae'n gallu achosi poen yn yr organau cenhedlu ymhlith symptomau eraill.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei ddisgrifio fel haint “trosglwyddadwy iawn” gan nad oes symptomau gan bobl yn aml.
Daw’r brechlyn newydd ar ôl i nifer yr achosion o haint gonoroea ostwng 40% yng Nghymru y llynedd.
Ond er bod gostyngiad o’r fath yn “ymddangos yn gadarnhaol,” fe allai hefyd adlewyrchu newidiadau mewn patrymau profi pobl yn hytrach na “gostyngiad gwirioneddol mewn trosglwyddiad,” medd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn ôl y corff cyhoeddus, mae nifer yr achosion o haint gonoroea wedi bod yn codi blwyddyn ar flwyddyn cyn hynny – ac mae’n “parhau ar lefelau hanesyddol o uchel.”
'Aros yn wybodus'
Dywedodd yr Athro Daniel Thomas, Epidemiolegydd Ymgynghorol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym yn gofyn i bobl fod ar eu gwyliadwraeth ac aros yn ddiogel.
"Defnyddiwch gondomau, profwch yn rheolaidd a chymerwch y brechlyn gonoroea pan fydd ar gael.
“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth ddiogelu ein hiechyd rhywiol ac iechyd rhywiol ein partneriaid.”
Cafodd y brechlyn yn erbyn gonoroea ei gyflwyno yn Lloegr yn ddiweddar, gan olygu mai Cymru a Lloegr fydd y ddwy wlad gyntaf yn y byd i gynnig rhaglen o’r fath.
Fel rhan o’u hadroddiad diweddaraf, nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod nifer yr achosion o glamydia wedi gostwng 16% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol hefyd.
Mae hynny er ei fod yn parhau i fod yr STI bacteriol sy'n cael ei ddarganfod amlaf yng Nghymru, yn enwedig ymhlith pobl ifanc 15–24 oed, meddai.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa pawb sy’n cael rhyw, yn benodol y rheiny sydd â phartneriaid gwahanol i brofi am heintiau rhywiol o leiaf unwaith y flwyddyn.
Mae’r gwasanaeth Profi a Phostio, sef cit sy’n cael ei bostio at bobl ac yn cynnwys profion am heintiau rhywiol, yn cyfateb i hanner yr holl brofion STI yng Nghymru. Mae modd archebu'r pecyn drwy fynd i wefan www.shwales.online.