Newyddion S4C

Enwebiad dewrder i blismon o Heddlu'r Gogledd a gafodd ei frathu

PC James Mardsen
Mae plismon o Heddlu'r Gogledd wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr am ddewrder, ar ôl i ddyn frathu rhan o'i glust yn ystod ffrwgwd.
 
Fis nesaf, bydd y Cwnstabl James Marsden yn ymuno ag erail sydd wedi eu henwebu mewn seremoni yn Llundain sydd wedi ei threfnu gan Ffederasiwn yr Heddlu.  
 
Cafodd ei anafu mewn digwyddiad yn Llangefni, Ynys Môn ar 8 Rhagfyr y llynedd, pan gafodd y Cwnstabl Marsden a chyd-weithiwr eu galw, wedi adroddiadau am ymosodiad domestig. 
 
Wrth iddyn nhw geisio arestio'r dyn, cafodd y Cwnstabl Marsden ei wasgu ar y llawr, a brathodd y dyn ran o'i glust.  
 
Llwyddodd cyd-weithiwr y Cwnstabl Marsden i dynnu'r dyn oddi arno.
 
Wrth i'r Cwnstabl Marsden geisio mynd â'r dyn i'r ddalfa, fe wnaeth plismyn eraill dynnu sylw at yr anaf ar ei glust.  
 
Cafodd ei gludo i ysbyty, a chafodd wybod na fyddai modd gwella'r anaf i'r glust.  
 
Cafodd wybod y byddai angen iddo gael seibiant o'r gwaith am dair i bedair wythnos, ond roedd yn pryderu y byddai hynny'n rhoi mwy o bwysau ar ei gyd-weithwyr yn ystod cyfnod prysur y Nadolig. 
 
Yn Llys y Goron Caernarfon Fis Ionawr, plediodd Kevin Humphrey Jones, 40 oed, o Llanfairpwll, Ynys Môn yn euog i anafu gyda'r bwriad i osgoi cael ei arestio. 
 
Cafodd ei garcharu am dair blynedd a phedwar mis . 
Image
Clust
 
Peryglon 
 
Dywedodd Ysgrifennydd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru, Lewis Davies fod yr anaf yn ein hatgoffa o'r peryglon sy'n wynebu plismyn, pan yn cael eu galw i warchod y cyhoedd.  
 
"Dangosodd James ddewrder er mwyn parhau i arestio'r dyn er gwaethaf ei anaf difrifol," dywedodd. 
 
"Bydd yn rhaid iddo bellach fyw gydag effaith yr ymosodiad gwarthus hwn, a'r effaith y mae hyn wedi ei gael ar y rhai sydd agosaf ato. Mae hi'n bwysig ei fod yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Dewrder yr Heddlu."  
 
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru Amanda Blakeman fod hwn yn "ymosodiad gwarthus sydd wedi creithio'r Cwnstabl Marsden yn barhaol. 
 
"Mae'r ffaith iddo fedru parhau gyda'i shifft, a'i fod yn pryderu na fedrai barhau â'i ddyletswyddau dros gyfnod prysur y Nadolig yn brawf o'i ymrwymiad i'r cymunedau mae'n eu gwasanaethu, a'i gyd-weithwyr," meddai. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.