Prydain i brynu awyrennau rhyfel sy'n gallu cario arfau niwclear
Mae Prydain yn bwriadu prynu 12 awyren rhyfel a fydd yn gallu cario arfau niwclear.
Yn ôl Llywodraeth y DU dyma'r ymdrech fwyaf "mewn cenhedlaeth" i gryfhau eu harfogaeth niwclear.
Bydd yr awyrennau F-35 A yn gallu cario arfau arferol ond hefyd bomiau niwclear a fydd yn cael eu cynhyrchu yn America.
Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer wedi dweud nad yw hi'n bosib i'r DU "feddwl bod heddwch yn rhywbeth caniataol" a bod hyn yn dangos bod y llywodraeth yn "buddsoddi yn ein diogelwch cenedlaethol".
Bydd Prydain hefyd yn ymuno gyda chynllun awyrlu NATO a fydd yn cario bomiau niwclear Americanaidd.
Mae'r Llu Awyr Brenhinol wedi bod yn gofyn ers tro i gael yr hawl i gario arfau niwclear ar eu hawyrennau eto. Fe ddaeth hyn i ben ar ddiwedd y Rhyfel Oer.
Ers hynny, dim ond llongau tanfor y Llynges Frenhinol sydd wedi gallu cario arfau o'r fath.
Yn ogystal mae Llywodraeth y DU wedi rhoi addewid y byddan nhw'n buddsoddi mewn adnewyddu pedair llong danfor.
Llun: PA