Newyddion S4C

Dyn yn euog o lofruddio bachgen ysgol â chleddyf samurai

Marcus Arduini Monzo

Rhybudd: Gall yr erthygl isod beri gofid.

Mae dyn wedi ei gael yn euog o lofruddiaeth ar ôl iddo ymosod ar fachgen ysgol â chleddyf a bron â thorri ei ben i ffwrdd.

Clywodd llys yr Old Bailey fod Marcus Arduini Monzo, 37, wedi lladd Daniel Anjorin, 14 oed, â chleddyf samurai.

Dywedodd tyst bod y cyn-yrrwr fan ddosbarthu Amazon wedi sgrechian “mewn llawenydd” a gwenu ar ôl ymosod ar y bachgen oedd wedi bod yn cerdded i'r ysgol yn ei ddillad ymarfer corff.

Dywedodd yr erlynydd Tom Little KC wrth y rheithgor ei fod yn “wyrthiol” na chafodd mwy o bobl eu lladd wrth i Monzo geisio ymosod ar bawb a ddaeth ar ei draws dros gyfnod o 20 munud.

Roedd Monzo wedi lladd a thynnu croen ei gath Wizard cyn rhedeg yn wyllt yn Hainault yng ngogledd-ddwyrain Llundain ar 30 Ebrill y llynedd.

Image
Daniel Anjorin
Daniel Anjorin

Yn ogystal â lladd Daniel, ymosododd Monzo ar gerddwr, dau swyddog heddlu a chwpl yn eu cartref eu hunain cyn iddo gael ei arestio.

Wrth roi tystiolaeth yn ei achos llys, dywedodd nad oedd ganddo unrhyw atgof o'r hyn a ddigwyddodd a bod ganddo gyfrifoldeb lleiedig am ei droseddau o ganlyniad i’w gyflwr meddyliol.

Ond er i Monzo ddweud ei fod wedi yfed te oedd yn achosi iddo weld pethau (hallucinogenic) o'r enw ayahuasca, ni chafodd unrhyw olion eu darganfod yn ei system.

Fodd bynnag, dadleuodd yr erlyniad nad oedd seicosis o ganlyniad i gymryd cyffur yn fwriadol yn amddiffyniad dros lofruddiaeth.

Fe wnaeth y rheithgor gael Monzo yn euog o lofruddiaeth, tri chyhuddiad o geisio llofruddio, bwrgleriaeth wedi’i waethygu, a bod ag arf lafnog yn ei feddiant.

Penderfynodd y rheithgor nad oedd yn euog o geisio llofruddio un o’r dioddefwyr, Henry De Los Rios Polania, ond ei fod yn hytrach yn euog o glwyfo gyda'r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.

Bydd Monzo yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener yn yr Old Bailey.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.