Arestio dros 400 yn Ffrainc yn dilyn buddugoliaeth PSG ym Nghynghrair y Pencampwyr
Fe gafodd dros 400 o bobl eu harestio yn Ffrainc yn dilyn dathliadau ar ôl buddugoliaeth tîm pêl-droed Paris St-Germain (PSG) yng Nghynghrair y Pencampwyr nos Sadwrn.
Enillodd PSG yn erbyn Arsenal yn y rownd derfynol yn Budapest ar ôl ciciau o’r smotyn.
Cafodd miloedd o swyddogion heddlu eu lleoli yng nghanol Paris i fynd i afael â’r anhrefn, a wnaeth amharu ar wasanaethau bws a thrên yn y brifddinas.
Fe gafodd tan gwyllt a fflerau eu tanio, gyda sawl heddwas yn cael eu hanafu.
Cafodd nwy dagrau ei ddefnyddio gan yr heddlu er mwyn gwasgaru’r torfeydd yng nghanol y ddinas.
Cafodd 416 eu harestio ar draws Ffrainc nos Sadwrn, gyda 283 o'r arestiadau ym Mharis.
Daw wedi i ddau berson gael eu lladd y llynedd mewn dathliadau treisgar ar ôl i PSG ennill y gystadleuaeth am y tro cyntaf, gyda channoedd yn cael eu harestio bryd hynny.
Dywedodd Gweinidog Mewnol Ffrainc, Laurent Nuñez eu bod wedi paratoi ar gyfer y rownd derfynol eleni drwy roi “system gadarn iawn yn ei le”.
Roedd torfeydd wedi ymgynnull ar y Champs-Élysées yn fuan ar ôl i’r gêm ddod i ben.
Roedd lluniau CCTV yn dangos ffenestri o leiaf un siop yn cael eu torri a beiciau trydanol yn cael eu llosgi ar y stryd.
Roedd golygfeydd treisgar yn gynharach yn y dydd yn ogystal wrth i gefnogwyr PSG gyrraedd stadiwm y clwb, Parc des Princes, i wylio’r gêm ar sgriniau mawr.
Dywedodd yr heddlu bod chwe cherbyd, dau fusnes a lloches bws wedi’u difrodi yn ystod y terfysg.
Llun: Reuters

