Newyddion S4C

Wynne Evans: Ei berthynas gyda’i fam wedi cyfrannu at gyfnod anodd

Wynne Evans

Rhybudd: Mae’r erthygl ganlynol yn trafod hunanladdiad ac fe all beri gofid i rai. Am gymorth ewch i wefan S4C.

Mae Wynne Evans wedi dweud bod ei berthynas gyda’i fam wrth gael ei fagu yng Nghaerfyrddin wedi cyfrannu at gyfnod anodd yn hwyrach yn ei fywyd.

Fe aeth y canwr opera a seren Masterchef a Strictly Come Dancing drwy gyfnod o iselder ar ôl ei ysgariad yn 2016 oddi wrth y feiolinydd Tanwen Evans.

Ond wrth siarad ar raglen Sgwrs dan y Lloer a fydd yn cael ei darlledu ar S4C nos Lun dywedodd fod ei deimlad o fod ar ei ben ei hun ar ôl ysgaru wedi ei wreiddio yn rhannol yn ei berthynas gyda’i fam, a fu farw yn 2004.

“Oedd fy mam yn y theatr drwy’r amser,” meddai.

“Mae’r berson perffaith i redeg y theatr, i redeg y cwmni ieuenctid, ond fel mam...

“Dwi’n meddwl y trigger yw, dwi wedi teimlo tipyn bach yn abandoned pan oni’n blentyn.

“A pan dwi’n mynd drwy’r ysgariad - yr un peth. Oh God it’s happened again.”

Mam Evans oedd Elizabeth Evans MBE, a sefydlodd a bu'n rhedeg Opera Ieuenctid Caerfyrddin a Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin am 25 mlynedd. 

Yn 2022 gwnaed ei hymdrechion i achub Theatr y Lyric yn y 90au cynnar, gan gynnwys galw am gymorth Steven Spielberg i sicrhau première arbennig i’r ffilm Jurassic Park, yn ffilm o'r enw Save the Cinema,.

Dywedodd Wynne Evans ei fod wedi gwylio y ffilm o fywyd ei fam a bod eu perthynas yn wahanol iawn yn hwnnw.

“Pan dwi wedi weld y ffilm - I don’t wnat to sound too sad - fy mam a dad fi ddim yn [dweud] caru ti,” meddai.

“Ar y ffilm, trwy’r amser y ferch sy’n chwarae fy mam yn dweud i fi yn y ffilm, caru ti, caru ti.

“Dwi jesd tipyn bach yn trist am hwn.”

Image
Sgwrs dan y Lloer

‘Tricio’r meddwl’

Dywedodd Wynne Evans bod ei brofiad o enwogrwydd wedi bod yn “mixed” a’i fod yn gallu bod yn “horrible” ar adegau.

“Yn 2009 meddyliais i, o mae’n grêt, dw i yn yr hysbyseb [Go Compare] ac mae pobl yn caru fi siŵr o fod,” meddai.

“Ond dywedodd fy ffrind i fi yn 2009, ‘O wyt ti wedi gweld y hate group ar Facebook - y grŵp ‘Dwi’n casáu Wynne Evans’.

“Ac mae llawer o bobol yn sgwennu i fi, dwi’n casáu ti... cc mae’n teimlo jesd yn horrible.”

Fe arweiniodd yr iselder at ymgais i’w ladd ei hun, meddai, ond roedd yn falch nad oedd wedi gwneud hynny. 

“Mae’r tŷ yma dipyn bach yn mixed emotions achos dw i wedi prynu'r tŷ ar ôl yr ysgariad,” meddai.

“Dwi’n dod yma - mae’n derelict. Dwi’n dechrau unwaith eto ac yn y diwedd, dwi’n trist trwy’r amser. Trwy’r amser.

“Ac fe meddyliais i un Sul y Pasg, mae’n jyst too much. Dw i’n mynd i’r garej a dw i wedi penderfynu mae’n amser i gorffen.

“Ond yn y diwedd mae ddim yn gweithio, diolch byth.”

Dywedodd ei fod wedi gwisgo ei galon ar ei lawes wrth drafod ei brofiadau.

“Ar y dechrau dywedais i mod i wedi stryglo a doedd o, mae o ddim yn helpu,” meddai.

“Mae ddim yn helpu fi ond mae’n helpu bobl arall achos os ydi Wynne yn drist, mae ar y radio bob dydd yn chwerthin. Ac mae’n hapus. 

“Ond a gweud y gwir yn y cân, dwi’n crio. Ond mae’n helpu fi achos dwi’n tricio fy meddwl, o dw i yn hapus.”

Bydd Sgwrs Dan y Lloer yn cael ei darlledu ar S4C am 20.00 nos Lun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.