'Dros hanner o bobl ifanc' yn pryderu am allu eu teuluoedd i fforddio cyfnod y Nadolig
Mae saith ym mhob deg person ifanc yn pryderu am allu eu teuluoedd i fforddio cyfnod y Nadolig, yn ôl un elusen.
Mewn arolwg gan Action for Children, fe wnaeth y mwyafrif o bobl ifanc rhwng 11-21 mlwydd oed ddweud eu bod yn poeni y bydd sefyllfa ariannol eu rhieni yn arwain at bryder i’r teulu dros y Nadolig.
Mae Rhys o Landudno yn un sy’n poeni am ei fam.
Mewn cyfweliad gydag ITV Cymru dywedodd ei fod e’n “amser anodd iddi hi ar ôl iddi geisio arbed arian trwy gydol y flwyddyn i dalu am y Nadolig”
Dywedodd: “Dw i’n teimlo’n weddol drist trwy gydol mis Rhagfyr achos dw i ddim yn siŵr os gaf i anrheg gan mam neu ginio Nadolig.
"Dw i’n gwybod mae hi bob tro yn trio ei gorau, ac mi wnâi wastad gael rhywbeth.”
Mae Rhys yn awyddus i ledaenu’r neges bod llawer o bobl yn yr un sefyllfa ag ef a bod yna fanciau bwyd ar gael i helpu’r rheini sy’n eu hangen.
Wrth trafod Nadolig llynedd, dywedodd Rhys: “Roedd costau byw yn broblem fawr i ni dros y Nadolig, doedden ni ddim yn gallu fforddio ein bil nwy ar y pryd felly doedden ni ddim yn gallu troi’r ffwrn ymlaen i goginio’r cinio Nadolig.
“Fe aethom ni draw at dŷ ffrind yn y diwedd, ond yn amlwg dydy hynny ddim yn dewis i rai teuluoedd.”
Wrth drafod pryderon ariannol teuluoedd dros gyfnod y Nadolig, dywedodd Alastair Love, Swyddog y Cyfryngau Action for Children: “Gall plant mynnu lot dros gyfnod y Nadolig, sy’n deg.
"Mae’n amser hudolus o’r flwyddyn i’r rhan fwyaf ohonom, ond wedyn mae yna bwysau i ddarparu - gall hyn fod o ran cinio Nadolig, anrhegion, neu hyd yn oed y pwysau i deithio i weld teulu.
“Mae yna ormod o deuluoedd yn methu gwneud hynny a dyna le rydym ni, fel mudiad, yn ceisio’u helpu.
"Mae’n hymgyrch Siôn Corn Cyfrinachol ni yn gyfle i bobl godi arian a helpu’r rhai yn ein cymuned sy’n eu hangen fwyaf.”
Prif Lun: Rhys, o Landudno (Llun: ITV Cymru)