'Dynamig a chyflym': Ymateb gwrthwynebwyr Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd
Mae grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026 wedi eu dewis ddydd Gwener.
Ond beth oedd ymateb gwrthwynebwyr Cymru yng Ngrŵp J - Gwlad Belg, Gogledd Macedonia, Kazakhstan a Liechtenstein?
Mae Gwlad Belg yn wrthwynebwyr cyfarwydd i Gymru. Dyma fydd y 10fed tro i'r ddwy wlad wynebu ei gilydd, ac mae gan y wasg yno atgofion o Gymru yn ennill yn rownd yr wyth olaf yn Euro 2016.
Dywedodd Het Laatste Nieuws bod y Crysau Cochion yn "wyneb cyfarwydd i'r Cythreuliaid Coch, sydd wedi chwarae Cymru'n aml yn ddiweddar".
"Yn enwedig y llanast ym Mhencampwriaeth Ewrop 2016, pan wnaeth y Cymry guro’r Belgiaid yn rownd yr wyth olaf, sydd yn dal yn amlwg yng nghof llawer o gefnogwyr pêl-droed Gwlad Belg."
Inline Tweet: https://twitter.com/JoueursBE/status/1867535107256725936
Uchod: Gwefan Het Laatste Nieuws ar X yn cofio am gôl enwog Hal Robson-Kanu.
Ychwanegodd gwefan Sporza.be mai Cymru fydd gwrthwynebwyr anoddaf Gwlad Belg ar bapur.
"Yr enwau allan o'r het a Chymru yr enw cyntaf yng ngrŵp y Cythreuliaid Coch.
"Daw hyn ag atgofion yn ôl o Bencampwriaeth Ewrop 2016, lle collodd Gwlad Belg mewn modd rhyfeddol yn erbyn Cymru.
"Mae gan ein tîm cenedlaethol grŵp. Dim timau mawr go iawn, ond Cymru fel y gwrthwynebydd anoddaf ar bapur."
'Yn gallu cystadlu gyda Chymru'
Nid yw Cymru wedi chwarae yn erbyn Gogledd Macedonia ers 2013, a Chymru oedd yn fuddugol adeg honno.
Gôl Simon Church oedd y gwahaniaeth adeg 'ny, ond mae'r ddau dîm wedi newid yn sylweddol ers y dyddiau rheini.
Mae'r ddau wedi dringo rhestr detholion FIFA, ac mae rhai newyddiadurwyr yng Ngogledd Macedonia yn hyderus eu bod nhw'n gallu cystadlu gyda Chymru.
"Mae'n anodd, ond nid yn dasg amhosibl i gyrraedd y gemau ail-gyfle eto," meddai Filip Mishov.
"Gobeithio y gallwn gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf yn ein hanes."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1867540481422315681
Ar wefan Makfax, mae hyder bod gan y garfan y gallu i achosi trafferthion i Gymru.
"Gogledd Macedonia fydd y ffefrynnau yn erbyn Liechtenstein, ond yr argraff yw bydden ni'n gallu cystadlu gyda'r ffefrynnau Gwlad Belg a Chymru."
Ychwanegodd rheolwr y tîm cenedlaethol Blagoja Milevski bod Cymru yn dîm cenedlaethol da.
"Maen nhw'n dîm grêt, tîm sydd yn chwarae pêl-droed dynamig a chyflym," meddai.
"Wrth gwrs, mae ganddyn nhw syniad o le maen nhw eisiau gorffen yn y grŵp, ond dwi'n hyderus y gallwn ni eu hatal."
'Methu rhoi asesiad penodol'
Yn Kazakhstan a Liechtenstein, mae rheolwyr y ddwy wlad yn disgwyl tasg "diddorol" wrth herio Cymru.
Stanislav Cherchesov yw rheolwr Kazakhstan, a dywedodd nad oedd yn gwybod llawer am Gymru gan nad yw ef wedi gwylio tîm Cymru ers sbel.
"Rwy’n adnabod tîm Gwlad Belg yn dda – rwyf eisoes wedi chwarae yn eu herbyn yn y twrnamaint rhagbrofol ac ym Mhencampwriaeth Ewrop ei hun. Maen nhw yn ailstrwythuro ar hyn o bryd," meddai.
"O ran timau Cymru a Gogledd Macedonia, nid wyf wedi eu gweld yn chwarae ers amser maith, felly ni allaf roi asesiad penodol eto.
"Ni fyddaf yn dyfalu, fy swydd i yw talu sylw i yn fy nhîm. Y peth pwysicaf yw pa mor dda y gallwn eu paratoi."
Dywedodd Konrad Fünfstück wrth y wasg yn Liechtenstein bod y grŵp yn "dasg ddiddorol" i'w garfan ond eu bod yn edrych ymlaen at yr her.