Newyddion S4C

Cynllun gan gyngor i dalu busnesau i gynnig toiledau i'r cyhoedd yn 'hurt'

Pencadlys Cyngor Sir Ddinbych, Dinbych.

Mae cynllun gan Gyngor Sir Ddinbych i dalu £500 y flwyddyn i fusnesau i sicrhau bod toiledau ar gael i’r cyhoedd tra’n cau cyfleusterau sy’n eiddo i’r cyngor wedi’i ddisgrifio fel un “hurt”.

Bydd cabinet y cyngor yn cyfarfod yr wythnos nesaf i ystyried ei ‘Strategaeth Toiledau Lleol Ddrafft’ – cynllun ar sut i dorri costau cyfleusterau cyhoeddus.

Yn gynharach eleni, fe ddaeth adroddiad gan swyddogion y cyngor o dan y lach ar ôl i £200,000 o arbedion gael eu cynnig a fyddai wedi gweld rhai toiledau yn cau ac eraill yn cael eu trosglwyddo i gynghorau cymuned.

Yn dilyn ffrae mewn pwyllgor craffu ddechrau'r gwanwyn, gofynnodd cynghorwyr yn lle hynny am ragor o wybodaeth.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus cychwynnol, bydd y cabinet bellach yn gyfrifol am roi sel bendith i'r cynllun torri costau ddydd Mawrth cyn iddo fynd yn ôl i ymgynghoriad cyhoeddus.

Daw'r ddadl ar ôl i Sir Ddinbych dderbyn y cynnydd canrannol mwyaf yn ei swm blynyddol gan Lywodraeth Cymru y llynedd.

Mae dyfarnu swm cymharol hael yn debygol o gael ei ailadrodd yn 2025/26, ar ôl i’r Senedd gyhoeddi’r wythnos hon y bydd Sir Ddinbych unwaith eto’n cael codiad o 4.7% yn ei Setliad Llywodraeth Leol.

Y cynnydd hwn yw'r uchaf yng Ngogledd Cymru yn ôl canran.

£500 y flwyddyn

Ond mae’r cynllun dan sylw yn cynnig ystod o fesurau, gyda busnesau’n cael cynnig i gymryd rhan mewn ‘Cynllun Toiledau Cymunedol’ am £500 y flwyddyn neu £9.61 yr wythnos.

Dywed yr adroddiad: “Bydd yn ofynnol i sefydliadau sy’n cymryd rhan gadw eu toiledau’n ddiogel, yn lân, yn hygyrch ac wedi’u stocio’n dda. Uchafswm y taliad grant o dan y cynllun gan Gyngor Sir Ddinbych ar hyn o bryd yw £500 y flwyddyn.”

Beirniadodd cynghorydd Tremeirchion, Chris Evans, y cynlluniau. 

Dywedodd: “Rydym yn croesawu pawb i mewn ar gyfer twristiaeth i lefydd fel Llangollen. Dewch i ddefnyddio’r camlesi a cherdded y llwybrau a’r parciau, ond ni fydd toiledau i’w defnyddio.

“Mae’n chwerthinllyd. Un o’r pethau y byddwn i’n poeni’n fawr amdano yw nad yw Sir Ddinbych yn ceisio gwthio’r toiledau yn ogystal â’r llyfrgelloedd ar y cynghorau tref iddyn nhw dalu.

“Ni allwn ei roi ar fusnesau bach ychwaith. Am y £10 hwnnw yr wythnos, bydd yn rhaid i berchennog y busnes lanhau'r toiled, stocio papur toiled. “Mae busnesau bach o dan bwysau a dydyn nhw ddim yn cael unrhyw help. Nid yw'n iawn.”

'Diffyg gwybodaeth'

Beirniadodd cynghorydd Ceidwadol Y Rhyl, Brian Jones, yr adroddiad hefyd am fod â diffyg gwybodaeth ariannol.

Cytunodd y Cynghorydd Jones â barn y Cynghorydd Evans nad oedd cynnig £500 y flwyddyn i fusnesau ddarparu toiled cyhoeddus yn mynd i weithio.

Dywedodd y Cynghorydd Jones: “Maen nhw (swyddogion y cyngor) wedi gwneud cryn dipyn o waith, ond mae rhai bylchau yn y gwaith maen nhw wedi’i wneud, yn sicr o safbwynt ariannol, o ran faint mae pob toiled unigol yn ei gostio t i redeg.

“Pan fyddwch chi'n deall hynny, yna mae'n debyg y gallwch chi wneud rhagdybiaeth addysgiadol ynghylch pa doiledau all aros ar agor a pha rai na allant."

Dywed Sir Ddinbych fod y Strategaeth Toiledau Lleol wedi'i datblygu yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn gynharach eleni, a arweiniodd at 1,400 o ymatebion.

Bwriad yr asesiad oedd adolygu anghenion y boblogaeth leol, gan gynnwys cyfleusterau newid ar gyfer babanod a phobl anabl.

Mae’r cyngor yn honni bod Sir Ddinbych yn wynebu cyfnod o “bwysau cyllidebol sylweddol a pharhaus”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.